Gwybodaeth beichiogrwydd


Teithio

Gyda'r rhag paratoadau priodol, a gyda gwybodaeth ar bryd i deithio, brechiadau ac yswiriant, gall y rhan fwyaf o fenywod teithio'n ddiogel ymhell i mewn i'w beichiogrwydd.

Ble bynnag yr ewch, ceisiwch ddarganfod pa gyfleusterau gofal iechyd sydd yn eich cyrchfan rhag ofn y bydd angen sylw meddygol arnoch yn frys. Mae'n syniad da i gymryd eich cofnodion meddygol gyda chi fel y gallwch roi'r wybodaeth berthnasol i'r meddygon os bydd angen.

Sicrhewch fod eich yswiriant teithio yn eich diogelu ar gyfer unrhyw sefyllfa, fel gofal meddygol, sy'n ymwneud â beichiogrwydd, yn ystod y cyfnod esgor, genedigaeth gynamserol a'r gost i newid dyddiad eich taith yn ôl os byddwch yn dechrau esgor.

Pryd i deithio mewn beichiogrwydd

Mae'n well gan rhai menywod beidio â theithio yn ystod y 12 wythnos gyntaf o feichiogrwydd oherwydd  eu bod yn teimlo'n sâl ac yn flinedig iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn.

P'un a ydych yn teithio neu beidio, mae'r risg o gamesgor yn uwch yn ystod y tri mis cyntaf.  Er nid oes dim rheswm pam na allwch chi deithio yn ystod yr amser yma, os bydd arnoch chi unrhyw bryderon, trafodwch nhw gyda'ch bydwraig neu feddyg.

Teithio mewn awyren

Nid ydy hedfan yn niweidiol i chi na'ch baban, ond trafodwch unrhyw faterion iechyd neu gymhlethdodau beichiogrwydd gyda'ch bydwraig neu feddyg cyn i chi hedfan.

Mae'r tebygolrwydd o ddechrau esgor, yn naturiol, yn uwch ar ôl 37 wythnos (tua 34 wythnos os ydych yn cario gefeilliaid), ac ni fydd rhai cwmniau hedfan yn gadael i chi hedfan tua diwedd eich beichiogrwydd. Holwch y cwmni hedfan am eu polisi ar hyn.

Ar ôl wythnos 28 o feichiogrwydd, efallai bydd y cwmni hedfan yn gofyn am lythyr gan eich meddyg neu'ch bydwraig yn cadarnhau dyddiad yr enedigaeth, ac nad ydych yn debygol o gael cymhlethdodau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y llythyr ac aros sawl wythnos cyn ei gael.

Mae teithio am bellter hir (fwy na phum awr) yn cario risg bach o glotiau gwaed (thrombosis gwythien ddofn, neu DVT). Os ydych yn hedfan, gwnewch yn siwr eich bod yn yfed digon o ddwr a symudwch o gwmpas yn rheolaidd -  tua phob 30 munud. Gallwch brynu pâr o sanau cynhaliol yn y fferyllfa, dros y cownter, a fydd yn lleihau chwyddo yn y coesau.

Brechiadau

Nid yw'r mwyafrif o frechlynnau sy'n defnyddio bacteria neu firysau byw yn cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd oherwydd pryderon y gallent niweidio'r babi yn y groth.

Fodd bynnag, gellir ystyried rhai brechlynnau byw yn ystod beichiogrwydd os yw'r risg o haint yn gorbwyso'r risg o frechu byw.

Mae brechlynnau nad ydynt yn fyw (anactif) yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.

Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu fydwraig am gyngor ynghylch brechiadau teithio penodol.

Tabledi malaria

Nid yw rhai tabledi gwrth-falaria yn ddiogel i'w cymryd yn ystod beichiogrwydd felly gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor.

Firws Zika

Mae firws Zika yn cael ei ledaenu'n bennaf gan fosgitos a geir mewn rhai rhannau o'r byd. I'r rhan fwyaf o bobl mae'n ysgafn ac nid yw'n niweidiol, ond gall achosi problemau os ydych chi'n feichiog.

Os ydych chi'n feichiog, ni argymhellir teithio i rannau o'r byd lle mae'r firws Zika yn bresennol, fel rhannau o:

  • De a Chanol America
  • y Caribî
  • ynysoedd y Môr Tawel
  • Affrica
  • Asia

Gwiriwch cyn i chi deithio

Mae'n bwysig gwirio'r risg i'r wlad yr ydych yn mynd iddi cyn i chi deithio.

Dysgwch fwy am risg firws Zika mewn gwledydd penodol ar wefan Travel Health Pro

Teithio mewn car

Y peth gorau yw osgoi teithiau hir mewn car os ydych chi'n feichiog. Fodd bynnag, os na ellir ei osgoi, gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio'n rheolaidd ac yn mynd allan o'r car i ymestyn a symud o gwmpas.

Gallwch hefyd wneud rhai ymarferion yn y car (pan nad ydych chi'n gyrru), fel ystwytho a chylchdroi eich traed a siglo bysedd eich traed. Bydd hyn yn cadw'r gwaed i lifo trwy'ch coesau ac yn lleihau unrhyw stiffrwydd ac anghysur. Gall gwisgo hosanau cywasgu tra ar deithiau hir mewn car (mwy na 4 awr) hefyd gynyddu llif y gwaed yn eich coesau a helpu i atal ceuladau gwaed.

Mae blinder a phendro yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd felly mae'n bwysig ar deithiau car i yfed yn rheolaidd a bwyta bwydydd naturiol sy'n rhoi egni, fel ffrwythau a chnau.

Cadwch yr aer yn cylchredeg yn y car a gwisgwch eich gwregys diogelwch gyda'r strap croes rhwng eich bronnau a'r strap glin ar draws eich pelfis o dan eich twmpath, nid ar draws eich twmpath.

Mae damweiniau ffordd ymhlith achosion mwyaf cyffredin anaf mewn menywod beichiog. Os oes rhaid i chi fynd ar daith hir, peidiwch â theithio ar eich pen eich hun. Fe allech chi hefyd rannu'r gyrru gyda'ch cydymaith.

Teithio mewn cwch

Mae gan gwmniau fferi cyfyngiadau eu hun a gallant wrthod cario menywod beichiog (yn aml ar ôl 32 wythnos o feichiogrwydd). Sicrhewch beth yw'r polisi'r fferi cyn archebu. Ar gyfer teithiau cwch hirach, fel mordeithiau, gofynnwch a oes yna gyfleusterau ar y llong i ymdopi â beichiogrwydd ac os oes gwasanaeth meddygol yn y porthladdoedd a ymwelir â nhw.

Bwyd a diod

Cymerwch ofal i osgoi cyflyrau a drosglwyddir trwy fwyd a dwr, megis anhwylderau stumog a dolur rhydd teithio. Nid yw rhai meddyginiaethau i drin poen yn y stumog a dolur rhydd teithio yn addas i'w defnyddio'n ystod beichiogrwydd.

Dylech bob amser sicrhau a yw'r dwr tap yn ddiogel i'w yfed. Os oes amheuaeth, gwnewch yn siwr eich bod yn yfed dwr potel. Os byddwch yn mynd yn sâl, yfwch ddigon a bwytwch er mwyn iechyd eich babi, hyd yn oed os nad oes eisiau bwyd arnoch.

Dysgwch mwy am ddiet iach yn ystod beichiogrwydd, a bwydydd i'w hosgoi.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:42:59
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk