Ambell gwestiwn ac ateb am fwydo ar y fron
Ateb eich cwestiynau am fwydo ar y fron
Pa mor aml y mae angen i'm babi fwydo ar y fron?
Mae pob mam a babi yn wahanol. Byddwch chi a'ch babi yn sefydlu eich patrwm bwydo eich hunan gydag eich gilydd. Fel canllaw bras iawn, dylai eich babi fwydo o leiaf wyth gwaith neu fwy bob 24 awr yn ystod yr wythnosau cyntaf.
Peidiwch â phoeni am fwydo'ch babi yn ôl y galw. Dydych chi ddim yn gallu gorfwydo babi sy'n bwydo ar y fron, a fydd eich babi ddim yn cael ei ddifetha neu droi’n feichus os byddwch chi’n ei fwydo pryd bynnag y bydd yn llwglyd neu angen cysur.
Pa mor hir y dylai pob pryd o'r fron barhau?
Mae pob babi yn wahanol. Mae rhai babanod am gael eu bwydo yn aml am gyfnod byr, ac mae'n well gan eraill fwydo am fwy o amser - neu gymysgedd o'r ddau. Gadewch i'ch babi i orffen ar y fron gyntaf, cyn cynnig y llall.
Os yw eich babi'n bwydo drwy'r amser a'ch bod yn poeni am hynny, siaradwch â'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch arbenigwr bwydo ar y fron. Efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch chi gyda lleoli ac ymlyniad. Gallwch chi hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212.
Am ba hyd y dylwn i fwydo ar y fron?
Mae bwydo ar y fron (llaeth y fron yn unig) yn cael ei argymell am tua 6 mis cyntaf bywyd eich babi. Bwydo ar y fron ochr yn ochr â bwyta bwyd y teulu sydd orau i fabanod o 6 mis ymlaen.
Gallwch chi a'ch babi barhau i fwynhau manteision bwydo ar y fron <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/breastfeedingwhy/?locale=cy> mor hir ar hyn rydych chi’n dymuno. Mae bwydo eich babi ar y fron yn yr ail flwyddyn neu o hynny ymlaen ochr yn ochr â bwydydd eraill yn ddelfrydol.
Mae llawer o famau yn parhau i fwydo ar y fron pan fyddan nhw’n mynd yn ôl i'r gwaith neu'r coleg - darllenwch fwy yma - bwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i'r gwaith. Does dim rhaid i chi stopio os ydych chi'n beichiogi eto, chwaith.
Am fwy o wybodaeth ewch i benderfynu pryd i roi'r gorau i fwydo ar y fron <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/stopbreastfeeding/?locale=cy>.
Pam mae 'bwydo yn ôl y galw' mor bwysig?
Mae maint stumog babi newydd-anedig yn fach iawn - dim llawer mwy na chneuen Ffrengig, felly mae angen bwydo ychydig ar y tro ond yn aml. Gall eich babi fwydo’n dda a bod yn llwglyd eto yn fuan iawn wedyn. Dyma pam mae "bwydo yn ôl y galw" neu "ar alw" mor bwysig.
Yn ôl Zoe Ralph sy’n arweinydd tîm y blynyddoedd cynnar ym Manceinion "Y syniad yw eich bod yn 'ymateb' i’ch gofynion chi". "Mae bwydo ar y fron yn fwy na rhoi llaeth i fwydo eich babi. Mae eich babi'n bwydo am gysur a sicrwydd hefyd."
Mae babanod yn mynd drwy batrymau bwydo gwahanol wrth iddyn nhw dyfu. Bydd gadael iddyn nhw fwydo pryd y maen nhw eisiau bwydo yn sicrhau eu bod yn fodlon. Fe fyddan nhw’n cael y llaeth sydd ei angen arnyn nhw, pan maen nhw eisiau bwyd. Bydd hyn hefyd yn golygu y byddwch yn gallu cynhyrchu mwy o laeth.
"Mae bwydo yn ôl y galw hefyd yn ymwneud â'ch anghenion chi," meddai Zoe Ralph. Efallai y byddech yn hoffi cynnig bwydo ar y fron os yw eich bronnau'n anghyfforddus o lawn, neu os oes angen i chi fwydo eich babi o amgylch galwadau eraill, neu os ydych am ymlacio a mwynhau treulio peth amser gyda'ch babi.
Ydw i’n gallu bwydo ar y fron ar ôl cael llawdriniaeth Caesarean?
Ydych. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cwtsh croen-i-groen gyda'ch babi cyn gynted ag y gallwch chi. Efallai y bydd eich bydwraig yn eich helpu i gael cwtsh croen-i-groen yn y theatr neu yn yr ystafell adfer.
Os byddwch chi’n cadw eich babi'n agos atoch chi ac yn treulio amser yn cael llawer o gyswllt agos croen-i-groen, byddwch chi’n gallu ei roi ar y fron yn aml a bydd hyn o help i gynyddu eich cyflenwad o laeth.
Ar ôl llawdriniaeth cesaraidd, gall cael eich babi yn gorwedd ar ochr eich corff gyda’ch braich o’i gwmpas ar yr un ochr fel eich bod yn dal pêl rygbi yn syniad da. Mae hyn yn gweithio’n well na chael y babi yn gorwedd yn erbyn eich stumog. Gofynnwch i'ch bydwraig am feddyginiaeth lleddfu poen os bydd yn boenus fel eich bod yn gallu bwydo eich babi'n fwy cyfforddus.
Oes unrhyw resymau pam na ddylwn i fwydo ar y fron?
Yn achlysurol iawn, mae rhesymau meddygol cadarn dros beidio â bwydo ar y fron - er enghraifft, os oes gennych chi HIV neu, mewn achosion prin, rydych yn cymryd meddyginiaeth a allai niweidio eich babi, fel cyffuriau ar gyfer trin canser.
Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi fwydo eich babi ar y fron, siaradwch â'ch bydwraig neu eich ymwelydd iechyd am wybodaeth a chefnogaeth.
Ydw i’n gallu bwydo ar y fron gyda mwy nag un babi?
Mae’n bosibl bwydo gefeilliaid, tripledi neu fwy o fabanod ar y fron. Gan fod genedigaethau gyda mwy nag un babi yn fwy tebygol o gael eu geni yn gynnar yn ogystal â bod â phwysau is ar eu genedigaeth, mae llaeth y fron yn arbennig o bwysig iddyn nhw.
Pan fyddwch chi’n dechrau bwydo ar y fron, efallai y bydd yn haws bwydo eich teulu bach newydd ar wahân. Pan fyddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus, gallwch chi eu bwydo ar yr un amser. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau.
Gall fod yn ddefnyddiol iawn siarad â mamau eraill sydd wedi bwydo ar y fron, naill ai mewn grŵp cynenedigol neu mewn grŵp efeilliaid yn eich ardal. Gallwch chi fwydo tripledi ar y fron, naill ai dau gyda'i gilydd ac yna’r babi arall i ddilyn, neu fwydo’r tri ar gylchdro.
Am fwy o wybodaeth ewch i fwydo ar gyfer mwy nag un babi <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/Twinsfeeding/?locale=cy>i.
Cymorth a chefnogaeth bwydo ar y fron
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu bryderon am fwydo ar y fron yna mae digon o help a chefnogaeth ar gael. Gallwch chi:
- siarad â ffrind neu aelod o'r teulu sydd wedi bwydo ar y fron o’r blaen
- gofyn i'ch meddyg teulu, eich bydwraig neu eich ymwelydd iechyd
- ffonio llinell gymorth - er enghraifft, y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212
- edrych ar wefannau dibynadwy fel Y Rhwydwaith Bwydo ar y Fron
- ymuno â grŵp cymorth bwydo ar y fron yn lleol - gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd am fanylion neu chwiliwch ein Cronfa ddata Cymorth Llesiant Iechyd <https://111.wales.nhs.uk/LocalServices/Default.aspx?locale=cy> ar gyfer grŵp yn eich ardal chi
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr llyfryn bwydo ar y fron i gael rhagor o wybodaeth am fwydo ar y fron.
Last Updated: 25/05/2023 10:59:31
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk