Menu Close menu
Mae dydd Llun 26ain Awst yn wyl banc. Mae Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau iechyd. #Helpwchnii’chhelpuchi drwy archebu a chasglu presgripsiynau amlroddadwy ymlaen llaw. Os ydych wedi rhedeg allan o feddyginiaeth ar bresgripsiwn, defnyddiwch ein Canllaw Mynediad at Feddyginiaethau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Allan o Oriau.
Gall y gyfrifiannell ar y dudalen hon eich helpu i ddarganfod pa bryd i ddisgwyl i'ch babi gyrraedd. Bydd hon yn rhoi syniad bras. Fel rhan o'ch gofal cyn geni, bydd eich bydwraig hefyd yn cynnig sgan dyddio a fydd yn rhoi dyddiad cywirach o enedigaeth eich babi.
Mae beichiogrwydd fel arfer yn para am 37 wythnos i 42 wythnos o ddiwrnod cyntaf eich mislif diwethaf. I ddarganfod eich dyddiad disgwyliedig, defnyddiwch y ddewislen isod i gofnodi dyddiad y diwrnod cyntaf o'ch mislif diwethaf, a chliciwch 'cyfrifo'r dyddiad' - bydd y cyfrifianell yn gwneud y gweddill.
Nid yw cylchred y mislif pob menyw yn 28 diwrnod yn union. Os yw eich cylchred yn fyrrach neu’n fwy na 28 diwrnod, addaswch y rhif isod.