Gwybodaeth beichiogrwydd


Profion Ffrwythlondeb

Os ydych wedi rhoi cynnig aflwyddiannus ar feichiogi am flwyddyn neu fwy, drwy gael ryw yn rheolaidd heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu, mae'n amser siarad â'ch meddyg teulu. Os ydych yn fenyw dros 35 oed, neu os ydych yn credu gall naill bartner bod â phroblem ffrwythlondeb, ewch i weld eich meddyg teulu ar ôl chwe mis o geisio. Gallai fod problem ffrwythlondeb oherwydd eich bod wedi cael llawdriniaeth a allai fod wedi effeithio ar eich organau atgenhedlu, neu oherwydd eich bod wedi cael haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) fel chlamydia, sydd efallai wedi difrodi eich ffrwythlondeb.

Mae llawer o gyplau sydd â phroblemau ffrwythlondeb yn mynd ymlaen i feichiogi, naillai gyda thriniaeth ffrwythlondeb ai heb.

Beth i ddisgwyl

Os ydych yn gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu am eich bod yn cael trafferth feichiogi, bydd yn gofyn pa mor hir rydych wedi bod yn ceisio. Os ydy hi wedi bod yn llai na blwyddyn, neu os nad ydych wedi bod yn cael rhyw yn rheolaidd heb ddefnyddio atal cenhedlu, ac nid oes unrhyw reswm i amau bod gennych broblem ffrwythlondeb, o bosib bydd eich meddyg teulu yn argymell eich bod yn dal ati am gyfnod i weld a ydych yn beichiogi yn naturiol. Mae cael rhyw yn rheolaidd yn golygu cael rhyw bob dau neu dri diwrnod trwy gydol y mis. Dysgwch mwy am wneud y gorau o'ch siawns o feichiogi.

Os ydych wedi bod yn cael rhyw yn rheolaidd, heb ddefnyddio dulliau atal genhedlu, am fwy na blwyddyn. Gallai'ch meddyg teulu argymell ystod o brofion i benderfynu ar yr hyn sy'n eich atal rhag beichiogi.

Profion ffrwythlondeb

Mae'r dudalen hon yn rhestru rhai o'r profion ffrwythlondeb cychwynol fwyaf cyffredin. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio ar gyfer y profion yma, a fydd fel arfer yn digwydd yn yr ysbyty neu mewn clinig ffrwythlondeb.

Prawf sberm

Mewn tua thraean o achosion, mae problemau ffrwythlondeb yn deillio o broblem â'r partner gwrywaidd. Weithiau, gall diffyg sberm neu sberm nad ydynt yn symud yn briodol yn achosi methiant i feichiogi. Gall eich meddyg teulu drefnu prawf sberm. Bydd y partner gwrywaidd yn cael ei ofyn i gynhyrchu sampl sberm a mynd ag ef ar gyfer ei ddadansoddi, yn ôl pob tebyg yn eich ysbyty lleol.

Profion gwaed i wirio ofyliad

Mae cysylltiad agos rhwng lefelau hormonau mewn gwaed menyw ac ofyliad, pan fydd ofari yn rhyddhau wy i mewn i'r tiwbiau ffalopaidd. Gall anghydbwysedd hormonau achosi problemau ofylu, a gall prawf gwaed helpu i benderfynu a yw hyn yn digwydd. Gall mynd drwy gyfnod o beidio â chael mislif neu gael mislif afreolaidd hefyd fod yn arwydd o broblemau ofylu. Yr achos mwyaf cyffredin o broblemau ofylu yw syndrom ofariau polygodennog.

Prawf ar gyfer chlamydia

Chlamydia yw un o'r STIs mwyaf cyffredin yn y DU. Gall achosi clefyd lidiol y pelfis a phroblemau ffrwythlondeb. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio am brawf chlamydia. Gall hyn fod yn brawf troeth neu swab o'r wrethra (y tiwb y mae'r troeth yn mynd drwyddo) neu wddf y serfics.

Sgan uwchsain

Gellir gwneud sgan uwchsain i edrych ar ofariau, croth a thiwbiau ffalopaidd y fenyw. Mewn sgan uwchsain trawsweinol, a gynhelir yn yr ysbyty, mae stiliwr uwchsain bach yn cael ei roi yn y fagina. Gall y sgan hwn helpu meddygon i chwilio iechyd eich ofariau a'ch croth. Gall rhai cyflyrau, a all effeithio ar y groth, megis endometriosis a ffibroidau, atal beichiogrwydd. Gall y sgan hefyd chwilio am rwystrau yn eich tiwbiau ffalopaidd (y tiwbiau sy'n cysylltu'r ofariau a'r groth), a allai atal wyau rhag teithio ar hyd y tiwbiau ac i mewn i'r groth. Mae'r Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol (HFEA) yn amcangyfrif bod rhwystr neu ddifrod i'r tiwbiau ffalopaidd yn effeithio ar un mewn pob tair menyw sydd â phroblem ffrwythlondeb.

Pelydr-X o'r tiwbiau ffalopaidd

Gelwir hyn yn hysterosalpingogram (HSG). Bydd llifyn didraidd yn cael ei chwistrellu drwy'r groth tra byddwch yn cael sgan Pelydr-X. Bydd y llifyn yn helpu i'r meddygon weld a oes unrhyw rwystrau yn eich tiwbiau ffalopaidd. Gall rwystrau atal wyau rhag pasio trwy'r tiwbiau i'r groth, ac felly yn atal beichiogrwydd. Dysgwch mwy am brofion a gwneud diagnosis o broblemau anffrwythlondeb.

Beth nesaf?

Mewn tua 80% o achosion bydd y profion hyn yn esbonio beth sydd yn achosi'r methiant parhaus i feichiogi. Yn y 20% arall o achosion, nid oes unrhyw achos amlwg i'w gweld.

P'un a yw achos clir yn cael ei ffeindio neu beidio, gall eich meddyg teulu drafod y camau nesaf â chi. Gall hyn gynnwys eich cyfeirio at glinig ffrwythlondeb ar gyfer ymchwiliad pellach neu driniaeth.

Dysgwch mwy am driniaethau a gynigir mewn clinigau ffrwythlondeb yn y pwnc triniaethau ffrwythlondeb.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk