Os Nad Ydych yn Gallu Beichiogi
Os oes gennych broblemau ffrwythlondeb, efallai y cewch chi'ch poeni gan lawer o deimladau anodd. Yn aml bydd pobl â phroblemau ffrwythlondeb, pobl nad ydynt yn gallu cael plant a phobl sy'n cael trafferth beichiogi yn dioddef teimladau cymhleth gan gynnwys, yn aml, rhai poenus.
"Gall pobl teimlo ofn, dicter ac euogrwydd", meddai Clare Brown, prif weithredwr Rwydwaith Anffrwythlondeb DU, rhwydwaith cymorth anffrwythlondeb. "Maen nhw'n gallu teimlo eu bod wedi methu. Mae pobl yn sôn am deimlo'n llai o fenyw, neu'n llai o ddyn. Mae iselder a phryder yn gyffredin. Gall gael triniaeth ffrwythlondeb fod yn brofiad hynod chwithig. Nid yw'r rhan fwyaf ohonom byth yn dychmygu cael problemau gyda chael plentyn. Pan fydd yn digwydd, mae'n sioc ofnadwy".
I'r rhai sydd â phroblemau ffrwythlondeb sy'n eu rhwystro rhag cael plant, gall fod ganddynt ymdeimlad o golled neu alar. Mae Brown yn dweud, "mae hi bron a bod fel rhyw fath o alar am y plentyn roedd y person yn disgwyl ei gael. Gallwn gynllunio ein dyfodol ar y gobaith o gael plant, ac yn sydyn mae hyn yhn cael ei chwalu".
Nid yw pob person sy'n dioddef o broblemau ffrwythlondeb yn teimlo fel hyn. Mae'r 1.5 miliwn o bobl sy'n cael ei effeithio gan broblemau ffrwythlondeb yn profi pob math o ymateb, meddai Brown. Ond i'r rhai sy'n wynebu emosiynau anodd, mae cymorth ar gael.
Dod o hyd i gymorth
Gall pobl â phroblemau ffrwythlondeb ei gweld hi'n ddefnyddiol i siarad â theulu a ffrindiau am y ffordd y maent yn teimlo. I rai, fodd bynnag, nid yw hyn yn opsiwn. Efallai na fyddant eisiau rhannu eu problemau gyda phobl sy'n agos atynt.
"Rydym yn clywed yn eithaf aml fod teulu a ffrindiau yn ei gweld hi'n anodd i gydymdeimlo â phroblemau ffrwythlondeb", meddai Brown. "Yn aml, gallant ddweud pethau di-fudd, megis 'ymlaciwch a byddwch yn beichiogi', wel, weithiau nis yw hynny'n wir".
Mae llawer o bobl yn canfod mai siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg yw'r ffurf fwyaf buddiol o gymorth meddai Brown. Mae Anffrwythlondeb DU yn helpu pobl sydd â phroblemau ffrwythlondeb i gysylltu â'i gilydd a rhannu eu profiadau.
"Gall pobl fewngofnodi ar ein gwefan a siarad yn y fforymau yn ddienw", meddai. "Rydym hefyd yn cynnal grwpiau cymorth wyneb yn wyneb. Gall y ddau wneud llawer iawn i gael gwared ar y teimlad o unigrwydd". Mae hefyd llinell gymorth, sy'n cael ei staffio gan wirfoddolwyr, i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth dros y ffôn.
Gallwch hefyd gael gwybod mwy am gael cynghor a therapi.
Cefnogaeth yn ystod triniaeth
Mae'n gyffredin i deimlo o dan straen pan fyddwch yn cael triniaeth ffrwythlondeb. Mae rhai pobl yn canfod bod eu teimladau yn dod yn fwy anodd, ac efallai y byddant yn profi iselder neu bryder. Mae rhaid i glinigau ffrwythlondeb cynnig cwnsela i'w holl gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth.
"Ni ddylai cyplau a merched teimlo'n swil i ddod ymlaen am gwnsela", meddai Brown. "Nid ydy gofyn am y cynghorwyr yn golygu nad ydych yn ymdopi. Mae'n hollol normal eisiau cyfle i siarad, neu ofyn am wybodaeth".
Os ydych yn delip â phroblemau ffrwythlondeb ac yn profi teimladau sy'n ei gwneud hi'n anodd parhau â'ch bywyd bob dydd, gallwch fynd at eich meddyg teulu neu glinig ffrwythlondeb am help.
Gall eich meddyg teulu siarad â chi am yr help sydd ar gael, a allai gynnwys therapiau siarad, newid ffordd o fyw neu feddyginiaethau. Dysgwch mwy am brofion ffrwythlondeb.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk