Gwybodaeth beichiogrwydd


Diet Iach

Mae diet iach yn rhan bwysig o fyw yn iach ar unrhyw adeg, ond mae'n arbennig o bwysig os ydych yn feichiog neu'n ceisio beichiogi. Bydd bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd yn helpu eich baban i ddatblygu a thyfu, a bydd yn eich cadw chi'n heini ac yn iach.

Nid oes angen i chi fynd ar ddiet arbennig, ond mae'n bwysig bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd bob dydd er mwyn cael y cydbwysedd cywir o faethynnau y bydd eu hangen arnoch chi a'ch babi. Dylech hefyd osgoi rhai bwydydd penodol yn ystod beichiogrwydd gweler 'Bwydydd i'w Hosgoi'.

Mae'n debyg y byddwch yn canfod eich bod eisiau bwyd arnoch yn fwy nag arfer, ond nid oes angen i chi 'fwyta am ddau' - hyd yn oed os ydych yn disgwyl gefeilliaid neu dripledi. Bwytwch frecwast iach bob dydd oherwydd gall hyn eich helpu i osgoi bwyta byrbrydau sy'n uchel mewn braster a siwgr.

Yn aml nid yw bwyta'n iach yn golygu mwy na newid y symiau o fwydydd gwahanol rydych yn ei fwyta fel bod eich diet yn amrywio, yn hytrach na thorri allan eich hoff fwydydd. Bydd angen i chi fod yn ofalus gydag eich diet os byddwch yn datblygu diabetes cyfnod cario. Gallwch eich meddyg neu fydwraig yn eich cynghori am hyn.

Ffrwythau a llysiau

Bwytwch ddigon o ffrwythau a llysiau, oherwydd mae'r rhain yn darparu fitaminau a mwynau, yn ogystal â ffibr, sy'n helpu treuliad ac yn atal rhwymedd. Bwytwch o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd - gall y rhain fod yn ffres, wedi'u rhewi, mewn tun, wedi'u sychu neu mewn sudd. Cofiwch eu golchi yn ofalus. Coginiwch lysiau yn ysgafn mewn ychydig o ddwr, neu eu bwyta yn amrwd, ond wedi'u golchi'n dda, er mwyn cael budd o'r maethynnau sydd ynddynt.

Bwydydd â starts (carbohydradau)

Mae bwydydd â starts yn ffynhonnell bwysig o fitaminau a ffibr, ac yn eich llenwi heb ormod o galoriau. Maent yn cynnwys bara, tatws, grawnfwyd brecwast, reis, pasta, nwdls, indrawn, miled, ceirch, tatws melys, iamau a blawd india-corn. Dylai'r bwydydd yma fod y brif ran o bob pryd bwyd. Bwytwch grawn cyflawn yn hytrach na grawn wedi'i brosesu (gwyn) pan allwch.

Protein

Mae ffynonellau da o brotein yn cynnwys:

  • cig (ond osgowch afu/iau)
  • pysgod
  • dofednod
  • wyau
  • ffa
  • corbys
  • cnau

Bwytwch rywfaint o brotein bob dydd. Dewiswch gig heb lawer o fraster, tynnwch y croen oddi ar ddofednod, a'i goginio gan ddefnyddio dim ond ychydig o fraster. Gwnewch yn siwr bod wyau, dofednod, byrgyrs, selsig a seigiau o gig megis cig oen, cig eidion a  phorc yn cael eu coginio'n drwyadl. Sicrhewch nad oes unrhyw gig pinc, ac nad yw'r sudd sy'n llifo yn binc neu'n goch.

Ceisiwch fwyta dau ddogn o bysgod yr wythnos, a dylai un ohonynt fod yn bysgod olewog fel eog, sardinau neu facrell. Mae rhai mathau o bysgod dylech eu hosgoi yn ystod beichiogrwydd: gweler 'Bwydydd i'w Hosgoi'.

Cynnyrch y Llaethdy

Mae bwydydd y llaethdy, fel llaeth, caws, fromage frais ac iogwrt yn bwysig oherwydd eu bod yn cynnwys calsiwm a maetholion eraill sydd a'u hangen ar eich babi. Dewiswch y mathau sydd yn isel mewn braster lle mae hynny'n bosibl. Er enghraifft, llaeth hanner sgim neu sgim, iogwrt efo braster isel a chaws caled hanner-braster. Anelu am ddau neu dri dogn y dydd. Mae yna rhai cawsiau i'w hosgoi tra byddwch yn feichiog: 'Bwydydd i'w Hosgoi'.

Bwydydd sy'n uchel mewn siwgr neu fraster

Mae hyn yn cynnwys:

  • pob braster taenu (megis menyn)
  • olewau
  • dresin salad
  • hufen
  • siocled
  • creision
  • bisgedi
  • teisennau
  • hufen iâ
  • cacennau
  • pwdinau
  • diodydd swigod

Ni ddylech fwyta dim ond ychydig o'r bwydydd hyn. Mae bwydydd a diodydd siwgrllyd yn cynnwys caloriau heb ddarparu unrhyw faetholion eraill, a gall gyfrannu at ennill pwysau, gordewdra a phydredd dannedd.

Mae braster yn uchel iawn mewn caloriau, ac mae bwyta mwy o fwydydd â braster yn debygol o wneud i chi fagu pwysau. Gall cael gormod o fraster dirlawn gynyddu swm y colesterol yn y gwaed, sy'n cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd y galon. Ceisiwch fwyta llai o fraster dirlawn, a chael bwydydd llawn braster annirlawn yn lle hynny. Dysgwch am fraster dirlawn ac annirlawn.

Byrbrydau iach

Os bydd eisiau bwyd arnoch rhwng prydau, ceisiwch osgoi bwyta byrbrydau sy'n uchel mewn braster a/neu siwgr, fel melysion, bisgedi, creision a siocled. Yn lle hynny, dewiswch fyrbryd maethlon o'r canlynol:

  • brechdanau neu fara pitta wedi'u llenwi â chaws wedi'i ferwino, ham heb lawer o fraster, tiwna stwnsh, eog neu sardinau, gyda salad
  • llysiau salad, megis moron, seleri neu giwcymbr
  • iogwrt braster isel neu fromage frais
  • hwmws gyda bara neu lysiau
  • bricyll, ffigys neu eirin sych (parod i'w fwyta)
  • cawl llysiau a ffa
  • grawnfwyd brecwast heb ei felysu, neu uwd, gyda llaeth
  • diodydd llaethog neu sudd ffrwyth heb ei felysu
  • ffrwythau ffres
  • ffa pob ar dost neu daten bobi

Paratoi bwyd yn ddiogel

  • Golchwch ffrwythau, llysiau a salad i gael gwared o'r holl olion pridd, a allai gynnwys tocsoplasma, parasit sy'n gallu achosi tocsoplasmosis - gall tocsoplasmosis niweidio eich babi yn y groth.
  • Ar ôl paratoi cig amrwd golchwch arwynebau a'r offer i gyd, ac eich dwylo - bydd hyn yn helpu i osgoi tocsoplasmosis.
  • Gwnewch yn siwr bod bwydydd amrwd yn cael eu storio ar wahân i fwydydd sy'n barod i'w bwyta, fel arall mae yna risg o halogi - mae hyn er mwyn osgoi mathau eraill o wenwyn bwyd o gig (megis salmonella, campylobacter a E.coli).
  • Defnyddiwch fwrdd torri ar wahân ar gyfer cig amrwd.
  • Cynheswch brydau parod nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt - mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer prydau bwyd sy'n cynnwys dofednod.

Mae angen i chi hefyd wneud yn siwr bod rhai bwydydd, fel wyau, dofednod, byrgyrs, selsig a seigiau o gig megis cig oen, cig eidion a  phorc yn cael eu coginio yn drylwyr iawn: 'Bwydydd i'w Hosgoi'.

Cychwyn Iach

Mae cynllun Cychwyn Iach yn darparu talebau i fenywod beichiog neu deuluoedd sy'n gymwys. Cewch chi ddefnyddio'r talebau i brynu llaeth a ffrwythau a llysiau plaen ffres neu wedi'u rhewi mewn siopau lleol.  Byddwch hefyd yn cael cwponau y gellir eu cyfnewid am fitaminau am ddim yn lleol.

Rydych yn gymwys ar gyfer 'Cynllun Cychwyn Iach' os ydych yn feichiog ers o leiaf 10 wythnos neu os oes gennych blentyn o dan bedair oed,  ac rydych chi neu'ch teulu yn derbyn:

  • Ategiad Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Plentyn (ond nid Credyd Treth Gwaith oni bai bod eich teulu yn derbyn Credyd Treth Gwaith rhedeg ymlaen yn unig*) ac yn derbyn incwm teuluol blynyddol o £16,190 neu lai (2012/13)

Os ydych yn feichiog ac o dan 18 oed, byddwch yn gymwys am dalebau Cychwyn Iach dim-ots am beth yw eich incwm.

*Credyd Treth Gwaith rhedeg ymlaen yw'r Credyd Treth Gwaith a gewch yn ystod y pedair wythnos yn union ar ôl i chi roi'r gorau i weithio am 16 awr yr wythnos (oedolion sengl) neu 24 awr yr wythnos (pârau).

Gallwch lawr lwytho ffurflen gais Cychwyn Iach o'r wefan Cychwyn Iach, neu ffoniwch linell gymorth Cychwyn Iach ar 0845 607 6823 i archebu copi.


Last Updated: 05/07/2023 08:51:50
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk