Gwybodaeth beichiogrwydd


Cadw at Bwysau Iach

Gordewdra a beichiogrwydd

Mae gordewdra, sy'n cael ei ddiffinio fel arfer, fel mynegai mas y corff (BMI) o fwy na 30, yn fwyfwy cyffredin. Mae tua 15-20% o fenywod beichiog yn awr yn ordew. Fe ddeuir o hyd i'ch BMI trwy ddefnyddio'ch pwysau a'ch taldra. Cyn y byddwch yn beichiogi, gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell BMI pwysau iach i gyfrifo eich BMI. Ond unwaith y byddwch yn feichiog na fydd hyn yn gywir.

Y ffordd orau o ddiogelu eich iechyd chi a lles eich babi yw colli pwysau cyn i chi feichiogi. Gan gyrraedd pwysau iach, byddwch yn cynyddu eich siawns o feichiogi'n naturiol a lleihau eich risg o holl broblemau sy'n gysylltiedig â gordewdra yn ystod beichiogrwydd. Cysylltwch â'ch meddyg teulu am gyngor ar sut mae colli pwysau. Efallai bydd eich meddyg yn gallu eich cyfeirio at glinig arbennig i golli pwysau.

Os byddwch yn beichiogi cyn colli pwysau, ceisiwch osgoi poeni amdano - gall gofal cyn geni da helpu lleddfu'r risg i chi a'ch baban.

Tra'n feichiog

Os ydych chi dros eich pwysau ac yn feichiog, ni ddylech chi geisio colli pwysau tra byddwch yn cario rhag ofn nad yw hyn yn ddiogel. Er bod risgiau ynghlwm wrth fod yn ordew tra'n feichiog, nid oes tystiolaeth bydd colli pwysau tra'n feichiog yn lleihau'r risgiau hyn.

Y ffordd orau i sicrhau eich iechyd, ac iechyd eich baban, yw i chi fynychu pob un o'ch apwyntiadau cyn geni i'r fydwraig, meddyg a gofalwyr iechyd eraill gadw llygaid arnoch chi'ch dau. Fe fedran nhw ymdopi a'r risgiau y gallwch chi eu hwynebu oherwydd eich pwysau, ac yn gwneud pethau i atal - neu ymdopi âg - unrhyw broblemau.

Mae hi hefyd yn bwysig i fwyta diet cytbwys iach a gwneud rhywbeth corfforol pob dydd. Dylech chi dderbyn cyfeiriad at ddietegydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall am gyngor wedi'i  gymhwyso atoch chi eich hun ar fwyta'n iach a sut i gadw'n heini tra'n feichiog. Ni fydd cadw'n heini'n ystod beichiogrwydd yn peri niwed i'ch baban.

Bwyta ac ymarfer corff

Mae bwyta'n iach (gan gynnwys gwybod pa fwydydd i'w hosgoi) a gwneud gweithgareddau megis cerdded a nofio yn dda ar gyfer holl fenywod beichiog. Os nad oeddech yn ymarfer cyn beichiogrwydd, ymgynghorwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg bob amser cyn dechrau trefn newydd o ymarfer corff tra rydych chi'n feichiog.

Os dechreuwch chi drefn aerobig newydd o ymarfer corff (megis nofio, cerdded, rhedeg neu ddosbarthiadau aerobig), dwedwch wrth yr hyfforddwr eich bod yn feichiog ac wrth gychwyn ni wnewch fwy na 15 munud o ymarfer corff didor, teirgwaith yr wythnos. Gallwch gynyddu hyn yn araf deg hyd at 30 munud y diwrnod.

Cofiwch nid oes rhaid i ymarfer corff fod yn ymdrech i fod o fudd. Fel rheol fe ddylai hi fod yn bosib i chi sgwrsio wrth ymarfer tra'n feichiog. Os collwch chi eich anadl wrth ymarfer mae'n debyg eich bod chi ei gorwneud hi.

Eich gofal beichiogrwydd chi

Os ydych yn beichiogi cyn i chi golli pwysau, byddwch yn cael eich profi am ddiabetes cyfnod cario. Efallai y byddwch hefyd yn cael eich cyfeirio at anesthetydd i drafod materion megis cael epidwral yn ystod y cyfnod esgor. Rydych yn fwy tebygol o fod angen y math hwn o leddfu poen (am fod menywod sy'n ordew yn fwy tebygol o gael genedigaeth offerynnol - fentouse neu efeiliau), a gall fod yn anodd i'r epidwral gael ei roi.

Os ydych yn ordew, trafodwch eich opsiynau geni gyda'ch bydwraig neu feddyg teulu, oherwydd bod cyfyngiadau ar ba fenywod sy'n gymwys i gael genedigaeth ddiogel yn y cartref neu mewn pwll geni. Gan fod menywod gordew yn fwy tebygol o angen genedigaeth offerynnol, mae'n fwy diogel fel arfer i ddewis genedigaeth yn yr ysbyty lle mae mynediad cyflymach i ofal meddygol ac opsiynau lleddfu poen, os bydd angen.

Darganfod mwy am eich opsiynau ar ble i roi genedigaeth.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau ar reoli pwysau cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd (PDF, 68kb). Nid yw wedi'i anelu at fenywod sydd â BMI dros 30, ond mae ganddo wybodaeth ddefnyddiol ar gyflawni, a chynnal, pwysau iach.

Risgiau i chi a'ch babi

Gall gordewdra achosi problemau gyda beichiogi ac yn ystod beichiogrwydd. Os ydych chi'n dros eich pwysau, efallai y cewch drafferth beichiogi, ac os ydych yn cael triniaeth ffrwythlondeb, o bosib na fydd mor effeithiol. Yn ystod beichiogrwydd, mae bod â BMI o fwy na 30 yn cynyddu'r risg o amrywiaeth o broblemau iechyd i chi a'ch babi, megis:

Hefyd mae hi'n fwy tebygol y bydd arnoch chi angen:

Mae rhan fwyaf o fenywod gordew beichiog yn cael beichiogrwydd llwyddiannus, ond gall peri'r problemau canlynol i'ch babi:

  • marw-enedigaeth
  • namau geni (abnormaledd cynhenid)
  • tebygolrwydd uwch o broblemau iechyd yn hwyrach mewn bywyd, gan gynnwys gordewdra a diabetes.

Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk