Gwybodaeth beichiogrwydd


Hyperemesis gravidarum

Mae salwch (chwydu) yn ystod beichiogrwydd yn gyffredin. Mae tua 7 o bob 10 o ferched yn profi cyfog a/neu chwydu, ac nid yw hyn yn digwydd yn y bore yn unig.

Ar gyfer y rhan fwyaf o ferched, mae hyn yn gwella neu'n diflannu yn gyfan gwbl erbyn tuag wythnos 14, er gall bara'n hirach i rai menywod.

Mae rhai menywod beichiog yn dioddef cyfog a chwydu gormodol. Efallai byddant yn sâl sawl gwaith y dydd ac yn methu â chadw bwyd neu ddiod i lawr, a gall gael effaith negyddol ar eu bywyd bob dydd.

Mae'r cyfog a chwydu gormodol yma yn cael ei alw'n Hyperemesis gravidarum (HG), ac yn aml mae angen triniaeth mewn ysbyty. Nid yw'n glir yn union faint o fenywod beichiog sy'n cael HG, gan y gall nifer o achosion mynd heb ei ddarganfod, ond credir iddo fod tua 1 o bob 100.

Os ydych yn chwydu yn aml ac yn methu cadw bwyd i lawr, dywedwch wrth eich bydwraig neu feddyg, neu cysylltwch â'r ysbyty cyn gynted ag y bo modd. Mae risg efallai y byddwch yn dadhydradu, a gall eich bydwraig neu feddyg gwneud yn siwr eich bod yn cael y driniaeth gywir.

Symptomau hyperemesis gravidarum

Mae HG yn llawer gwaeth na chyfog a chwydu arferol beichiogrwydd ("salwch bore").

Mae arwyddion a symptomau HG yn cynnwys:

  • cyfog a chwydu difrifol dros gyfnod hir - mae rhai menywod yn dweud eu bod yn sâl hyd at 50 gwaith y dydd
  • dadhydradu - does dim digon o hylif yn eich corff am nad ydych yn gallu cadw diodydd i lawr, os ydych yn yfed llai na 500ml y dydd, mae angen i chi ofyn am help
  • cetosis - cyflwr difrifol sy'n arwain at gynydd o gemegau asidig yn y gwaed ac wrin; mae cetonau yn cael eu cynhyrchu pan fydd eich corff yn prosesu braster, yn hytrach na glwcos, ar gyfer ynni
  • colli pwysau
  • pwysedd gwaed isel (isbwysedd) wrth sefyll

Yn wahanol i salwch beichiogrwydd cyffredin, efallai na fydd HG yn gwella erbyn wythnos 14. Efallai na fydd yn clirio yn gyfan gwbl hyd nes i'r babi gael ei eni, er y gall symptomau gwella o gylch wythnos 20.

Ewch i weld eich meddyg teulu neu'ch bydwraig os oes gennych gyfog a chwydu difrifol, yn ddelfrydol cyn i chi ddechrau dioddef o ddiffyg hylif a cholli pwysau.

Mae yna amodau eraill sy'n gallu achosi cyfog a chwydu, megis llid y pendics, a bydd angen i'ch meddyg i wneud yn siwr nad un o'r rhain sy'n achosi'r salwch yn gyntaf.

Mae gan HealthTalkOnline fideos a chyfweliadau ysgrifenedig gan fenywod sy'n siarad am eu profiad o hyperemesis gravidarum, a sut maent wedi ymdopi.

Beth sy'n achosi hyperemesis gravidarum?

Nid yw'n hysbys beth sy'n achosi HG, neu pam mae rhai merched yn ei ddioddef ac eraill ddim. Mae rhai arbenigwyr yn credu ei fod yn gysylltiedig â'r newid mewn hormonau yn eich corff sy'n digwydd yn ystod beichiogrwydd.

Mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn digwydd mewn teuluoedd, felly os oes gennych fam neu chwaer sydd wedi cael HG yn ystod beichiogrwydd, efallai y byddwch yn fwy tebygol o'i gael eich hun.

Os ydych wedi cael HG mewn beichiogrwydd blaenorol, rydych yn fwy tebygol o gael yn eich beichiogrwydd nesaf na menywod nad ydynt erioed wedi'i ddioddef o'r blaen, felly mae'n werth cynllunio ymlaen llaw.

Trin hyperemesis gravidarum

Mae meddyginiaethau y gellir eu defnyddio yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys y 12 wythnos gyntaf, i helpu gwella symptomau HG. Mae'r rhain yn cynnwys cyffuriau gwrth-salwch (gwrth-emetic), fitaminau (B6 a B12) a steroidau, neu gyfuniad o'r rhain. Mae tystiolaeth yn awgrymu y cynharach yr ydych yn dechrau'r driniaeth, y mwyaf effeithiol y bydd.

Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar wahanol fathau o feddyginiaethau nes i chi ddod o hyd i beth sy'n gweithio'n orau i chi.

Os na all eich cyfog a chwydu cael ei reoli, efallai y bydd angen i chi fynd mewn i ysbyty. Mae hyn er mwyn caniatau i feddygon asesu eich cyflwr a rhoi'r driniaeth gywir i ddiogelu eich iechyd chi ac iechyd eich baban.

Gall triniaeth gynnwys hylifau mewnwythiennol, sy'n cael eu rhoi yn uniongyrchol i mewn i wythien drwy ddrip. Os yw'r chwydu yn ddifrifol, efallai y bydd angen rhoi cyffuriau gwrth-salwch ichi drwy wythien neu gyhyr hefyd.

Mae'r gan yr elusen 'Pregnancy Sickness Support' gwybodaeth ac awgrymiadau am ymdopi â chyfog a chwydu, gan gynnwys HG.

A fydd hyperemesis gravidarum yn niweidio fy mabi?

Mae HG yn annymunol gyda symptomau dramatig, ond y newyddion da yw ei fod yn annhebygol o niweidio eich babi, os caiff ei drin yn effeithiol. Fodd bynnag, os yw'n achosi i chi golli pwysau yn ystod beichiogrwydd, mae mwy o risg y gallai eich baban cael ei eni yn llai na'r disgwyl (â phwysau geni isel). Dyma pam ei bod yn bwysig ichi gael eich monitro  am ddiffyg hylif.

Sut y gallech deimlo

Gall y cyfog a chwydu o HG gael effaith enfawr ar eich bywyd, ar adeg pan fyddech yn disgwyl fod yn mwynhau beichiogrwydd ac yn edrych ymlaen at enedigaeth eich babi.

Gall eich effeithio yn emosiynol ac yn gorfforol. Nid yn unig bydd y symptomau yn gwneud eich bywyd yn ddiflas, ond gall arwain at gymhlethdodau iechyd pellach, fel iselder neu rwygau yn eich oesophagus.

Gall salwch difrifol eich gorflino ac yn eich atal rhag gwneud tasgau bob dydd, fel mynd i'r gwaith neu godi o'r gwely hyd yn oed. Yn ogystal â theimlo'n sâl ac yn flinedig iawn, efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n:

  • bryderus am fynd allan neu fod yn rhy bell o gartref, rhag ofn bydd angen i chi chwydu
  • ynysig, oherwydd nad ydych yn adnabod unrhyw un sy'n deall sut beth yw cael HG
  • ddryslyd ynghylch pam mae hyn yn digwydd i chi
  • ansicr p'un a allwch ymdopi â gweddill y beichiogrwydd a chithau'n parhau i deimlo'n sâl iawn

Os ydych yn teimlo unrhyw un o'r rhain, peidiwch â'i gadw i chi eich hun. Siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg, esboniwch yr effaith mae HG yn cael ar eich bywyd a sut y mae'n gwneud i chi deimlo. Gallwch hefyd siarad â'ch partner, teulu a ffrindiau os ydych yn dymuno.

Os ydych am siarad â rhywun sydd wedi bod drwy HG, gallwch gysylltu â 'PregnancySickness Support'. Mae ganddyn nhw rwydwaith cefnogi ar draws y DU, a gallant eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael HG.

Cofiwch fod HG yn llawer gwaeth na salwch beichiogrwydd rheolaidd - nid yw'n ganlyniad i unrhyw beth rydych wedi, neu heb, ei wneud, ac mae angen triniaeth a chymorth arnoch chi.

Beichiogrwydd arall

Os ydych wedi cael HG o'r blaen, mae'n debygol y byddwch yn ei gael eto yn ystod beichiogrwydd arall.

Os byddwch yn penderfynu ar feichiogrwydd arall, gall helpu i gynllunio ymlaen llaw, megis trefnu gofal plant er mwyn i chi gael digon o orffwys. Meddyliwch yn ôl at yr hyn a oedd wedi eich helpu tro diwethaf - er enghraifft, diodydd penodol - a gwnewch yn siwr eich bod yn gweithredu ar y mesurau hyn y tro yma.

Siaradwch â'ch meddyg am ddechrau meddyginiaeth yn gynnar.

Clotiau gwaed a hyperemesis gravidarum

Oherwydd y gall HG achosi dadhydradu, mae hefyd risg gynyddol o gael thrombosis gwythien ddofn (clot gwaed), er bod hyn yn anghyffredin.

Os ydych yn ddadhydredig a dim yn symud rhyw lawer, mae triniaeth y gallwch dderbyn er mwyn atal clotiau gwaed.


Last Updated: 05/07/2023 09:26:20
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk