Gwybodaeth beichiogrwydd


Bwydo baban gynnar o'r fron

Mae llaeth eich bron yn bwysig i'ch babi ar unrhyw oedran.  Mae ymchwil yn dangos bod rhoi llaeth y fron o fudd i iechyd eich babi cynamserol yn ogystal â'ch iechyd chi.

Ymhlith pethau eraill, mae llaeth eich bron:

  • yn helpu i amddiffyn eich babi rhag heintiau, yn enwedig heintiau o'r perfeddyn (mae babi cynamserol yn fwy tueddol o ddioddef o’r heintiau hyn)
  • yn cynnwys hormonau, maetholion a ffactorau twf sy'n helpu eich babi i dyfu a datblygu
  • yn haws i'ch babi ei dreulio na llaeth fformiwla, oherwydd mae eich llaeth chi wedi’i wneud yn arbennig gan eich corff ar gyfer eich babi.

Os ydy’r babi'n rhy fach neu'n rhy sâl i fwydo ar y fron, bydd angen i chi ddechrau tynnu eich llaeth yn rheolaidd yn fuan ar ôl iddo gael ei eni er mwyn i’r llaeth lifo.  Yna, rydych chi’n gallu dechrau bwydo ar y fron unwaith y byddwch chi a'ch babi yn barod.

Hyd yn oed os nad oeddech chi’n bwriadu bwydo ar y fron, rydych chi’n gallu tynnu llaeth o'ch bron am gyfnod i weld sut mae pethau’n mynd.

Mae treulio llawer o amser yn agos at eich gilydd yn gallu helpu i roi hwb i'ch cyflenwad llaeth a sefydlu bwydo ar y fron.

Cyswllt croen-i-groen gydag eich babi cynamserol

Byddwch chi’n cael eich annog i dreulio amser yn dal eich babi yn erbyn eich croen cyn gynted â phosibl. Yr enw am hyn yw Gofal Cangarŵ.

Bydd eich babi'n cael ei wisgo mewn cewyn/clwt yn unig ac yna'n cael ei osod y tu mewn i'ch top neu eich blows fel bod y babi yn gallu cael ei ddal yn ddiogel yn erbyn eich croen.

Mae’r cyswllt croen-i-groen yn eich helpu i deimlo'n agos at eich babi ac i deimlo'n fwy hyderus yn ei gwmni. Gall eich partner fwynhau cyswllt croen-i-groen hefyd.

Bydd cyswllt croen-i-groen yn helpu’ch babi cynamserol:

  • drwy leihau straen a/neu boen
  • drwy hyrwyddo cynnydd iach mewn pwysau
  • sefydlu bwydo ar y fron
  • addasu i'w amgylchedd
  • rheoleiddio a chefnogi curiad y galon a’r anadlu

Mae cyswllt croen-i-groen yn helpu mamau:

  • i atal iselder ôl-enedigol
  • i gynyddu hyder fel rhiant newydd
  • drwy gefnogi'r hormonau sy'n helpu gyda chynhyrchu a chyflenwi llaeth y fron

Mae cyswllt croen-i-groen yn helpu tadau:

  • i greu cyswllt clos gyda'r babi – mae babis yn gallu clywed lleisiau'r ddau riant yn y groth a byddan nhw’n cael eu tawelu gan sŵn llais eu tad yn ogystal â lleisiau eu mam
  • i deimlo'n fwy hyderus fel rhiant.

Tynnu llaeth o’r fron os ydy eich babi'n gynamserol

Rydym yn argymell eich bod yn tynnu llaeth 8- 10 gwaith y dydd i ddechrau, gan gynnwys o leiaf unwaith yn y nos, i gadw eich cyflenwad llaeth i lifo.

Yn y dyddiau cynnar, mae'n aml yn haws tynnu eich llaeth â llaw. Mae eich bydwraig neu eich cefnogwr bwydo ar y fron yn gallu dangos i chi sut i wneud hynny.

Mae'n debyg mai dim ond ychydig o ddiferion y byddwch chi’n gallu eu tynnu i ddechrau ond, os byddwch chi’n tynnu llaeth yn aml, bydd hyn yn cynyddu.

Yn y dyddiau cynnar rydych chi’n gallu casglu llaeth eich bron mewn cwpan bach sydd wedi’i ddiheintio a'i storio mewn chwistrell (syringe). Mae pob diferyn yn llesol i’r babi.

Unwaith y byddwch chi’n cynhyrchu mwy o laeth, gallwch chi roi cynnig ar ddefnyddio pwmp. Os ydy eich babi mewn uned newyddenedigol, bydd yr ysbyty fel arfer yn gallu rhoi benthyg pwmp trydan i chi dynnu eich llaeth. Os nad ydyn nhw’n gallu rhoi benthyg un i chi, gallwch chi logi un.

Cysylltwch â sefydliad bwydo ar y fron (am fanylion cyswllt, gweler Cymorth a chefnogaeth bwydo ar y fron) i logi pwmp, neu ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol  ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212.

Bydd y staff, eich bydwraig neu eich cefnogwr bwydo ar y fron yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i gynyddu eich cyflenwad o laeth. Gallan nhw hefyd ddangos i chi sut i annog eich llaeth i lifo a sut i ddefnyddio’r pwmp.

Gofynnwch am help ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiwn.

Bwydo eich babi â thiwb

Fel arfer, dydy babanod ddim yn dysgu cydlynu'r sugno, llyncu ac anadlu sydd eu hangen i fwydo hyd nes y maen nhw rhwng 34  - 36 wythnos o’r beichiogrwydd.

Os ydy eich babi yn cael ei eni cyn yr amser hwn, efallai y bydd angen iddo gael llaeth y fron drwy diwb bwydo i ddechrau. Mae hyn yn mynd drwy’r trwyn neu’r geg i'r stumog. Bydd staff yr uned newyddenedigol yn gallu dangos i chi sut i fwydo eich babi fel hyn.

Efallai bydd cymysgedd o fwynau (minerals), fitaminau a phrotein yn cael eu hychwanegu at laeth eich bron.

Efallai y bydd angen bwydo babanod sy'n gynamserol iawn neu'n sâl drwy lein IV i ddechrau. Mae hwn yn cynnwys maetholion sy’n cael ei fwydo'n syth i wythïen eich babi.

Am fwy o wybodaeth ewch i:  bwydo â thiwb.

Llaeth y fron gan roddwr

Mae rhai ysbytai yn gallu darparu llaeth y fron sydd wedi’i roi gan roddwr er mwyn i’ch babi chi ei gael hyd nes y bydd eich cyflenwad chi yn setlo.

Am fwy o wybodaeth ewch i United Kingdom Association for Milk Banking (UKAMB) sy’n cynnig gwybodaeth bellach am laeth y fron gan roddwr

Os nad yw llaeth y fron gan roddwr ar gael, bydd eich babi yn gallu cael llaeth fformiwla nes eich bod yn cynhyrchu digon o laeth eich hun.

Efallai y byddwch chi’n gallu dod o hyd i laeth y fron gan roddwr ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn argymell eich bod chi’n prynu llaeth gan roddwr dros y rhyngrwyd. Y rheswm am hyn yw nid yw’n bosibl cadarnhau'r ffynhonnell a dydyn ni ddim yn gallu bod yn siŵr a yw'r rhoddwr neu'r llaeth wedi'i sgrinio ar gyfer heintiau.

Symud ymlaen at fwydo eich babi cynamserol ar y fron

Wrth ddal eich babi, efallai y byddwch chi’n sylwi ei fod yn ceisio symud tuag at eich bron. Yn raddol, wrth iddo dyfu a dod yn gryfach, bydd yn gallu bwydo ar y fron yn uniongyrchol.

Y tro cyntaf y byddwch yn rhoi cynnig arni, efallai y bydd staff yr ysbyty yn gofyn i chi dynnu’ch llaeth yn gyntaf ac yna roi eich babi i'ch bron. Mae hyn yn cael ei wneud i sicrhau nad ydy eich babi'n cael ei orlethu pan fydd eich llaeth yn cael ei ryddhau.

Ar y dechrau, efallai y bydd eich babi ond yn llyfu'r fron, yna y tro nesaf yn sugno ychydig nes ei fod yn raddol yn bwydo’n hapus ac yn hyderus.

Gallwch chi gyfuno bwydo â thiwb â bwydo ar y fron nes bod eich babi'n cael popeth sydd ei angen arno fe o'r fron yn unig.

Defnyddio cymorth llaetha (lactation aid)

Gallwch chi hefyd ystyried defnyddio cymorth llaetha. Mae hwn yn ffordd o ategu bwydo eich babi ar y fron naill ai gyda’r llaeth wedi'i dynnu o’r fron neu ddefnyddio llaeth fformiwla.

Mae tiwb bach yn cael ei dapio wrth ymyl eich teth fel y bydd eich babi yn gallu cael llaeth drwy'r tiwb yn ogystal ag o'ch bron tra'i fod ynghlwm wrth eich bron. Mae hyn yn helpu i gefnogi eich babi wrth iddo ddod i arfer â'r fron.

Mwy o wybodaeth

Llyfryn bwydo ar y fron Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael mwy o wybodaeth am fwydo ar y fron.


Last Updated: 25/05/2023 10:40:56
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk