Gwybodaeth beichiogrwydd


Triniaeth Ffrwythlondeb

Trinaieth ffrwythlondeb os nad ydych yn gallu beichiogi

Os ydych wedi bod yn ceisio beichiogi am lai na blwyddyn, darganfyddwch sut mae gwella'ch siawns i feichiogi. Gall bwyta diet iach, torri i lawr ar alcohol, cadw at bwysau iach a gwneud ymarfer corff i gyd yn helpu.

Os ydych wedi bod yn ceisio beichiogi am flwyddyn neu fwy ac nid ydych yn feichiog, mae'n amser i chi weld eich meddyg teulu. Os ydych chi'n fenyw dros 35 oed, neu os ydych yn credu bod gan unrhyw un o'r ddau ohonoch chi broblem ffrwythlondeb, ewch i weld eich meddyg teulu ar ôl chwe mis o geisio beichiogi. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at glinig ffrwythlondeb. Bydd hyn fel arfer mewn ysbyty a bydd yn darparu triniaethau ffrwythlondeb.

Mae'r driniaeth ffrwythlondeb sy'n iawn i chi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau. Gall staff yn eich clinig ffrwythlondeb eich helpu chi i ddewis y driniaeth a fydd yn rhoi'r cyfle gorau i chi feichiogi.

Mathau o driniaeth ffrwythlondeb

Nid oes un driniaeth ffrwythlondeb unigol sy'n gweithio'n ddiffael i bawb. Bydd y driniaeth gywir ar eich cyfer chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys achos eich problemau ffrwythlondeb, oed y partner benywaidd a'ch hanes meddygol. Wrth siarad yn gyffredinol, mae tri chategori o driniaeth ffrwythlondeb:

Meddyginiaethau ffrwythlondeb

Mae'r rhain fel arfer yn cael eu rhagnodi i fenywod. Mae'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau ffrwythlondeb cyffredin wedi'u bwriadu i helpu gyda phroblemau ofylu. Dysgwch rhagor am feddyginiaethau ffrwythlondeb.

Gweithdrefnau llawfeddygol

Mae'r rhain yn cynnwys llawdriniaeth tiwb ffalopaidd, a all fod yn ddefnyddiol os bydd y tiwbiau ffalopaidd, sy'n arwain o'r ofariau i'r groth, wedi'u blocio neu eu creithio ac yn atal beichiogrwydd.

3. Cymorth beichiogi

Gall hyn gynnwys ffrwythloni mewngroth (IUI), lle mae'r sberm yn cael ei roi i mewn i'r groth gan ddefnyddio tiwb plastig tenau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol mewn achosion sy'n ymwneud a phroblemau sberm llai difrifol. Mae cymorth beichiogi hefyd yn cynnwys IVF ('in vitro fertilisation'), lle mae'r sberm a'r wyau yn cael eu cymysgu y tu allan i'r corff a chael eu rhoi yn ôl i mewn i'r groth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o broblemau ffrwythlondeb, gan gynnwys problemau sberm mwy difrifol ac achosion o anffrwythlondeb anesboniadwy.

Gallwch gael gwybod mwy am y driniaeth anffrwythlondeb yma.

Mynediad i driniaeth ffrwythlondeb

Os credwch fod problemau ffrwythlondeb arnoch, ewch i weld eich meddyg teulu yn gyntaf. Mae'ch meddyg teulu'n gallu cynnal amrywiaeth o brofion i helpu darganfod unrhyw broblemau ffrwythlondeb. Dysgwch mwy am yr hyn i'w ddisgwyl mewn profion ffrwythlondeb. Mae mynediad i rai triniaethau ffrwythlondeb, gan gynnwys triniaeth IVF, yn amrywio ledled y wlad, ac mae rhestrau aros hir mewn rhai ardaloedd.

Gall eich meddyg teulu eich cynghori ynghylch mynediad i driniaeth GIG yn eich ardal chi.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk