Dosbarthiadau Cyn-Geni
Gall dosbarthiadau cyn geni eich helpu i baratoi ar gyfer genedigaeth eich babi a rhoi hyder a gwybodaeth i chi.
Maent fel arfer yn llawn gwybodaeth ac yn hwyl, ac maent am ddim ar y GIG.
Gallwch ddysgu sut i:
- gofalu am a bwydo eich babi
- aros yn iach yn ystod beichiogrwydd
- gwneud cynllun geni, gan ystyried y trefniadau gwahanol ar gyfer esgor a geni a'r dewisiadau sydd ar gael i chi
Efallai y byddwch hefyd yn cyfarfod â rhai o'r bobl a fydd yn gofalu amdanoch yn ystod y cyfnod esgor ac ar ôl yr enedigaeth. Byddwch yn gallu trafod eich cynlluniau ac unrhyw bryderon gyda gweithwyr proffesiynol a rhieni eraill.
Mae dosbarthiadau cyn geni hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau gyda rhieni eraill sy'n disgwyl babanod tua'r un amser â chi. Gall y cyfeillgarwch hwn eich helpu chi trwy'r ychydig fisoedd cyntaf gyda'ch babi.
Dewis dosbarth
Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gael o ddosbarthiadau cyn geni fel y gallwch ddod o hyd i'r math o ddosbarth sydd fwyaf addas i chi.
Gellir archebu lleoedd mewn dosbarthiadau cyn geni yn gynnar. Mae'n syniad da dechrau gwneud ymholiadau yn gynnar yn ystod beichiogrwydd fel y gallwch sicrhau lle yn y dosbarth o'ch dewis. Gallwch fynychu mwy nag 1 dosbarth.
I gael gwybod am ddosbarthiadau yn eich ardal chi, gofynnwch i'ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu. Mae dosbarthiadau cynenedigol y GIG am ddim.
Siaradwch â'ch bydwraig gymunedol os na allwch fynd i ddosbarthiadau.
Pryd i gael dosbarthiadau cyn geni
Efallai y byddwch chi’n gallu mynychu dosbarthiadau rhagarweiniol ar ofal babanod yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, ond mae’r rhan fwyaf o ddosbarthiadau cyn geni yn dechrau tua 8 i 10 wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni, pan fyddwch chi tua 30 i 32 wythnos yn feichiog.
Os ydych chi'n disgwyl gefeilliaid, dechreuwch eich dosbarthiadau pan fyddwch chi tua 24 wythnos yn feichiog oherwydd mae'ch babanod yn fwy tebygol o gael eu geni'n gynnar. Mae rhai unedau’n cynnig dosbarthiadau cyn geni arbennig os ydych chi’n disgwyl lluosrifau – gofynnwch i’ch bydwraig am hyn.
Y dosbarthiadau
Efallai y byddwch yn gallu mynychu dosbarthiadau rhagarweiniol ar ofal babi yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, ond mae rhan fwyaf o ddosbarthiadau cyn-geni yn dechrau tua 8-10 wythnos cyn i'ch baban gael ei eni, pan fyddwch yn feichiog ers 30-32 wythnos. Os ydych chi'n disgwyl gefeilliaid, tripledi neu fwy, dechreuwch eich dosbarthiadau pan fyddwch chi wedi bod yn feichiog am tua 24 wythnos, oherwydd bod eich babanod yn fwy tebygol o gael eu geni yn gynnar. Bydd rhai unedau'n cynnig dosbarthiadau i fenywod sydd yn disgwyl mwy nag un baban - gofynnwch i'ch bydwraig am hyn.
Mae dosbarthiadau yn cael eu cynnal fel arfer unwaith yr wythnos, naill ai yn ystod y dydd neu gyda'r nos, am tua dwy awr. Mae rhai dosbarthiadau ar gyfer merched beichiog yn unig. Mae eraill yn croesawu partneriaid neu ffrindiau i rai neu bob un o'r sesiynau. Mewn rhai ardaloedd, mae dosbarthiadau ar gyfer mamau sengl, pobl ifanc neu fenywod nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg.
Y mathau o bynciau sy'n cael ei gynnwys yn y dosbarthiadau cyn-geni yw:
Mae rhai dosbarthiadau yn cynnwys yr holl bynciau. Mae eraill yn canolbwyntio ar agweddau penodol, megis ymarfer corff ac ymlacio, neu ofalu am eich baban. Mae'r nifer o ddosbarthiadau cyn-geni gwahanol, sydd ar gael, yn amrywio o le i le.
Last Updated: 10/05/2023 13:50:15
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk