Gwybodaeth beichiogrwydd


Darganfod (eich bod yn feichiog)

P'un a ydych wedi gwneud prawf beichiogrwydd neu beidio, dylech weld eich meddyg teulu neu fydwraig cyn gynted ag y byddwch yn credu'ch bod chi'n feichiog. Os ydych yn dymuno cofrestru gyda bydwraig ac nad ydych chi wedi cofrestru eto gyda meddyg teulu defnyddiwch y chwiliwr gwasanaethau lleol i ddod o hyd i feddyg teulu lleol.

Bydd eich beichiogrwydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol, hyd yn oed os ydych o dan 16 oed. Bydd eich meddyg teulu neu fydwraig yn dweud wrthych am y dewisiadau gofal cyn geni sydd ar gael yn eich ardal leol. Gall beichiogrwydd effeithio ar y driniaeth a roddir am gyflwr neu salwch sydd arnoch chi eisoes neu a ddatblygwch chi o hyn ymlaen.

Fe fedrwch chi ddysgu mwy am arwyddion beichiogrwydd a phrofion beichiogrwydd

Dysgu eich bod yn feichiog

Pan fyddwch yn darganfod eich bod yn feichiog, efallai y byddwch yn teimlo'n hapus ac yn gynhyrfus, neu efallai byddwch yn teimlo sioc, yn ddryslyd ac yn ofidus. Mae pawb yn wahanol, a pheidiwch â phoeni os nad ydych yn teimlo mor hapus ag y byddwch yn disgwyl. Hyd yn oed os ydych wedi bod yn ceisio beichiogi, efallai y bydd eich teimladau yn annisgwyl.

O bosib bydd rhai o'r teimladau hyn yn cael eu hachosi gan newidiadau yn lefelau'ch hormonau, sy'n gallu gwneud i chi deimlo'n fwy emosiynol. Hyd yn oed os ydych yn teimlo'n bryderus ac yn ansicr ar hyn o'r bryd, gall eich teimladau newid. Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu. Byddant yn ceisio eich helpu i addasu, neu'n rhoi cyngor i chi os nad ydych am barhau â'ch beichiogrwydd.

Gall dynion hefyd cael teimladau cymysg pan fyddant yn cael gwybod bod eu partner yn feichiog. Gallant ei gweld hi'n anodd siarad â hi am y teimladau hyn am nad ydynt am ei chynhyrfu. Dylai'r ddau ohonoch annog eich gilydd i siarad am eich teimladau ac unrhyw ofidiau neu bryderon sydd arnoch.

Sut bynnag y byddwch yn teimlo, cysylltwch â gweithiwr proffesiynol y GIG (er enghraifft bydwraig, meddyg teulu neu nyrs y practis) fel y gallwch ddechrau cael gofal cyn-geni. Hyn ydy'r gofal a byddwch yn derbyn hyd at enedigaeth eich babi.

Dweud wrth bobl eich bod yn feichiog

Efallai y byddwch am ddweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau yn syth, neu aros am ychydig nes eich bod wedi datrys sut rydych yn teimlo. Mae llawer o fenywod yn aros nes eu bod wedi cael ei sgan uwchsain gyntaf cyn iddynt ddweud wrth bobl eu bod yn feichiog.

Gall aelodau o'ch teulu neu deulu estynedig fod a theimladau cymysg neu yn ymateb mewn ffyrdd annisgwyl i'ch newyddion. Efallai y byddwch am drafod hyn gyda'ch bydwraig. Dysgwch mwy am ymdopi â theimladau a pherthnasau yn ystod beichiogrwydd.

Ffliw a beichiogrwydd

Mae'r brechiad yn erbyn ffliw tymhorol yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog unrhyw bryd yn ystod y beichiogrwydd. Mae gan fenywod beichiog, sydd yn dal y ffliw, mwy o siawns dioddef cymhlethdodau a gorfod mynd i'r ysbyty. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu fydwraig os ydych yn ansicr am ba frechiadau dylech eu cael.


Last Updated: 27/06/2023 10:34:49
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk