Gwybodaeth beichiogrwydd


Budd-Daliadau Rhiant

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r budd-daliadau y mae gennych hawl arnynt tra byddwch chi'n feichiog, a hefyd gwybodaeth am absenoldeb mamolaeth a thadolaeth. Mae hefyd yn rhestru budd-daliadau eraill gallwch chi eu derbyn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Gwyliau ac amser bant

Tra byddwch yn feichiog, mae gennych hawl i hyd at flwyddyn o absenoldeb mamolaeth.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Mae gan bob menyw gyflogedig sy'n feichiog yr hawl i 52 wythnos (blwyddyn) o absenoldeb mamolaeth, does dim ots pa mor hir y mae hi wedi gweithio i'w chyflogwr. Mae hyn yn cynnwys 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth arferol a 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol. Mae gennych ystod o hawliau yn ystod y cyfnod hwn a gallwch hefyd ofyn bod eich cyflogwr yn darparu trefniadau gweithio hyblyg os byddwch yn penderfynu dychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd eich absenoldeb. Darganfod mwy am absenoldeb mamolaeth statudol.

Mae gan UK.Gov teclyn ar-lein a all roi arweiniad personol ar hawliau mamolaeth.

Mae eich telerau cyflogaeth, er enghraifft, eich cyfraniadau pensiwn, yn cael eu diogelu tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth statudol. Os cewch eich diswyddo tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth statudol, mae gennych hawliau ychwanegol hefyd.

Gweithio tra byddwch yn feichiog

Os ydych yn feichiog, mae rhaid i'ch cyflogwr ddiogelu eich iechyd a diogelwch, ac efallai y bydd gennych yr hawl i gael amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl am eich gofal cynenedigol. Rydych hefyd wedi'ch diogelu rhag triniaeth annheg.

Os ydych yn mwynhau eich gwaith ac yn hoffi'r bobl yr ydych yn gweithio â nhw, efallai y byddwch â theimladau cymysg pan fyddwch yn dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth. Ceisiwch wneud y mwyaf o'r wythnosau yma i fwynhau gwneud y pethau rydych am eu gwneud ar eich cyflymder eich hun. Mae'n hefyd cyfle da i wneud ffrindiau newydd. Efallai y byddwch yn cwrdd â menywod beichiog eraill mewn dosbarthiadau cyn-geni yr ydych am gadw mewn cysylltiad efo nhw, neu efallai y byddwch yn dod i adnabod mwy o bobl sy'n byw gerllaw. Dysgwch am eich hawliau mamolaeth yn y gwaith.

Cynllunio gofal plant

Gallai fod eich bod chi wedi penderfynu treulio peth amser gartref gyda'ch babi, neu efallai eich bod yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser, yn weddol fuan ar ôl yr enedigaeth. Os ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, yna dechreuwch feddwl ymlaen llaw ynghylch pwy fydd yn gofalu am eich baban. Nid yw hi bob amser yn hawdd dod o hyd i drefniadau gofal plant boddhaol, a gall gymryd peth amser.

Gall fod gennych berthynas sy'n barod i ofalu am eich plentyn. Os na, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn eich awdurdod lleol i gael rhestr o warchodwyr plant a meithrinfeydd cofrestredig yn eich ardal. Mae gan Gov.UK mwy o wybodaeth am ofal plant. Efallai y byddwch hefyd am ystyried trefnu gofal yn eich cartref eich hun, naill ai ar eich pen eich hun neu rannu gyda rhieni eraill.

Nid oes angen i ofal yn eich cartref eich hun fod yn gofrestredig, ond gwnewch yn siwr bod eich gofalwr yn brofiadol ac wedi'i hyfforddi i ofalu am fabanod. Mae gan wefan Gov.UK mwy o wybodaeth am fudd-daliadau gofal plant, credydau treth a chymorth arall ar gyfer rhieni sy'n gweithio

Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth statudol

Mae gennych hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth pan fyddwch yn mynd yn ôl i'r gwaith. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth yw'r rhain a beth i'w wneud os oes gennych unrhyw broblemau neu os bydd eich hawliau yn cael eu gwrthod. Dysgwch mwy am ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth statudol.

Gofyn am weithio hyblyg

Mae  gan rieni â phlant 16 oed ac yn iau, neu blant anabl 18 oed ac yn iau, yr hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Mae angen i chi ddilyn trefn benodol wrth wneud eich cais. Dysgwch mwy am ofyn am weithio hyblyg.

Absenoldeb tadolaeth

Os ydych yn ddarpar-dad, neu yn bartner i fenyw feichiog - gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw - gallech fod â'r hawl i absenoldeb tadolaeth. Gall fod gennych yr hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Dysgwch mwy am absenoldeb tadolaeth. Mae gan Gov.UK teclyn ar-lein a all roi arweiniad personol ar hawliau tadolaeth yn y gwaith.

Budd-daliadau

Mae budd-daliadau a chymorth ariannol i'w gael i fenywod beichiog, p'un a ydynt yn cael eu cyflogi neu beidio.

Gofal deintyddol

Mae triniaeth ddeintyddol y GIG ar gael am ddim tra byddwch yn feichiog ac am 12 mis ar ôl i'r enedigaeth. I wneud cais am driniaeth ddeintyddol, ticiwch flwch ar ffurflen sy'n cael ei ddarparu gan eich deintydd a dangoswch eich Tystysgrif Eithrio.

Mae'r rhan fwyaf o'r cysylltau yn y rhestr hon yn mynd â chi i wefan Gov.UK, lle byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am hawliau a budd-daliadau, gan gynnwys y rhai ar gyfer merched beichiog a rhieni.

Cychwyn Iach

Mae llaeth, llaeth fformiwla, ffrwythau a llysiau ar gael am ddim i fenywod beichiog sy'n derbyn budd-daliadau penodol, ac ar gyfer pob merch feichiog o dan 18 oed. Darganfyddwch fwy am wefan Cychwyn Iach.

Credydau treth

Mae Credyd Treth Plant yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer plant, ac mae Chredyd Treth Gwaith yn helpu pobl mewn swyddi cyflog isel drwy ychwanegu at eu cyflogau. Darganfyddwch mwy am gredydau treth.

Tâl Mamolaeth Statudol

Tâl wythnosol gan eich cyflogwr i'ch helpu i gymryd amser o'r gwaith cyn ac ar ôl i'ch baban gael ei eni. Darganfyddwch mwy am Dâl Mamolaeth Statudol, gan gynnwys pryd mae angen ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog.

Lwfans Mamolaeth

Os ydych yn feichiog neu fod gennych faban newydd ond nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Darganfyddwch mwy am Lwfans Mamolaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.

Tâl Tadolaeth Statudol

Os bydd eich gwraig, eich partner (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw) neu bartner sifil yn rhoi genedigaeth neu'n mabwysiadu plentyn, gall fod hawl gyda chi i gael Tâl Tadolaeth Statudol i'ch helpu chi gael amser i ffwrdd o'r gwaith i'w chynorthwyo hi. Darganfyddwch mwy am Dâl Tadolaeth Statudol, gan gynnwys pryd mae angen ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn disgwyl plentyn.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Taliad wythnosol sy'n cael ei roi gan eich cyflogwr i'ch helpu cymryd amser o'r gwaith os byddwch yn mabwysiadu plentyn. Darganfyddwch mwy am Tâl Mabwysiadu Statudol, gan gynnwys sut a phryd i roi gwybod i'ch cyflogwr.

Help ariannol arall

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn - Os ydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth, ac os nad oes unrhyw blant eraill o dan 16 oed yn eich teulu, gallech gael y taliad unwaith hwn.

Lwfans Ceisio Gwaith - Y prif fudd-dal i bobl o oedran gweithio sydd allan o waith.

Cymhorthdal Incwm - Os na allwch fod ar gael ar gyfer gwaith llawn amser ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - Mae hyn wedi disodli Cymhorthdal Incwm ar gyfer pobl na allant weithio oherwydd salwch neu anabledd.

Budd-dal Tai - Efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda'ch rhent i gyd neu ran o'ch rhent os ydych ar incwm isel.

Cymorth ar gyfer Llog Morgais - Help gydag ad-daliadau llog morgais os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol.

Budd-dal Treth Cyngor - Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth i dalu eich treth gyngor os yw eich incwm yn isel.

Grantiau Gofal yn y Gymuned - Cymorth ariannol i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol.

Ble i gael cymorth a chyngor

Dylech gael cyngor ar fudd-daliadau cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog. Mae angen i fudd-daliadau cael ei hawlio ar ffurflenni gwahanol o swyddfeydd gwahanol, yn dibynnu ar yr hyn rydych yn hawlio. Mae hawliau mamolaeth yn gymhleth ac weithiau yn newid, felly gofynnwch am ragor o gyngor os nad ydych yn siwr. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol sy'n barod i helpu, felly mae croeso i chi ofyn am gyngor neu gael barn. Gallwch gysylltu ag unrhyw un o'r sefydliadau canlynol:

  • eich Canolfan Byd Gwaith lleol
  • Cyngor Ar Bopeth (CAB)
  • llyfrgell neu ganolfan gyngor arall 

I ddod o hyd i asiantaethau cynghori lleol, edrychwch yn y Tudalennau Melyn o dan Cwnsela a Chyngor:

  • Mae gan rhai awdurdodau lleol swyddogion hawliau lles - ffoniwch eich adran gwasanaethau cymdeithasol a gofyn.
  • Mae rhai sefydliadau gwirfoddol yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau a hawliau yn y gwaith - cysylltwch â Gingerbread a Theuluoedd Gweithio.
  • I gael cyngor ar hawliau yn y gwaith, ffoniwch ACAS ar 08457 474747.
  • Os ydych yn 19 oed neu'n iau, gallwch gael cyngor ar waith gan y Llinell Gymorth Gyrfaoedd i Bobl Ifanc ar 0800 100 900.

Last Updated: 12/07/2023 12:41:46
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk