Gwybodaeth beichiogrwydd


Eich Iechyd yn y Gwaith

Eich hawliau yn y gwaith tra'ch bod chi'n feichiog

Os ydych chi'n gweithio tra'ch bod chi'n feichiog, mae angen i chi wybod eich hawliau i ofal cynenedigol, absenoldeb mamolaeth a budd-daliadau.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd tra yn y gwaith, siaradwch â'ch meddyg, bydwraig neu nyrs iechyd galwedigaethol.

Gallwch hefyd siarad â'ch cyflogwr, cynrychiolydd undeb, neu rywun yn yr adran bersonél (AD) lle rydych chi'n gweithio.

Ar ôl i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog, dylent gynnal asesiad risg gyda chi i weld a yw'ch swydd yn peri unrhyw risg i chi neu'ch babi.

Os oes unrhyw risgiau, mae'n rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol i'w dileu. Gall hyn gynnwys newid eich oriau gwaith.

Os ydych chi'n gweithio gyda chemegau, plwm neu belydrau-X, neu mewn swydd gyda llawer o godi, gallai fod yn anghyfreithlon i chi barhau i weithio.

Yn yr achos hwn, rhaid i'ch cyflogwr gynnig gwaith amgen i chi ar yr un telerau ac amodau â'ch swydd wreiddiol.

Os nad oes dewis arall diogel, dylai eich cyflogwr eich atal dros dro ar gyflog llawn (rhoi absenoldeb â thâl i chi) cyhyd ag y bo angen er mwyn osgoi'r risg.

Os bydd eich cyflogwr yn methu â thalu i chi yn ystod eich beichiogrywdd, gallwch ddwyn hawliad mewn tribiwnlys cyflogaeth (cyn pen 3 mis). Ni fyddai hyn yn effeithio ar eich tâl mamolaeth neu absenoldeb mamolaeth.

Mae rhai menywod yn poeni am ddefnyddio sgriniau cyfrifiadur yn ystod beichiogrwydd. Ond nid yw'r ymchwil ddiweddaraf yn dangos unrhyw dystiolaeth o risg i'ch babi neu feichiogrwydd o unedau arddangos gweledol (VDUs) ar gyfrifiaduron.

Mae gan GOV.UK, Cyngor ar Bopeth a Gweithredu Mamolaeth fwy o wybodaeth am hawliau gweithwyr beichiog, gan gynnwys eich hawl i amser i ffwrdd â thâl am ofal cynenedigol a beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich trin yn annheg.

Ymdopi â symptomau beichiogrwydd yn y gwaith

Efallai y byddwch chi'n blino mwy na'r arfer, yn enwedig yn ystod wythnosau cyntaf ac wythnosau olaf eich beichiogrwydd.

Ceisiwch ddefnyddio'ch egwyl ginio i fwyta a gorffwys, i beidio â gwneud y siopa. Os yw teithio yn ystod yr oriau brig yn flinedig, gofynnwch i'ch cyflogwr a allwch weithio oriau ychydig yn wahanol am ychydig.

Peidiwch â rhuthro adref a dechrau swydd arall yn glanhau neu'n coginio. Os yn bosibl, gofynnwch i'ch partner neu aelod o'ch teulu ei wneud.

Os ydych chi ar eich pen eich hun, cadwch y gwaith tŷ mor isel â phosib a mynd i'r gwely yn gynnar os gallwch chi.

Darllenwch fwy am flinder yn ystod beichiogrwydd.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda chyfog a chwydu (salwch bore), efallai eich bod chi'n ei chael hi'n anodd yn y gwaith.

Gallwch ofyn i'ch cyflogwr am weithio oriau ychydig yn wahanol i osgoi amseroedd pan fyddwch chi'n teimlo'n waeth, neu'n gweithio gartref ar ddiwrnodau pan fydd salwch y bore yn ddrwg.

Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg teulu neu fydwraig am gael eich cymeradwyo i weithio am ychydig ddyddiau os yw'n arbennig o ddrwg.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:30:18
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk