Gwybodaeth beichiogrwydd


Apwyntiadau cyn geni

Bydd gennych nifer o apwyntiadau cyn-geni yn ystod eich beichiogrwydd, a byddwch yn gweld bydwraig neu weithiau obstetrydd (meddyg sy'n arbenigo mewn beichiogrwydd).

Byddant yn gwirio eich iechyd chi ac iechyd eich babi, yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi (er enghraifft am ddeiet iach yn ystod beichiogrwydd neu sgrinio cyn-geni) ac yn ateb unrhyw gwestiynau.

Mae gan weithwyr beichiog yr hawl i gael amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cyn-geni.

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r apwyntiadau a gynigir i chi a phryd y dylech eu cael nhw.

Os ydych yn feichiog gyda'ch babi cyntaf, bydd gennych fwy o apwyntiadau na menywod sydd â phlant yn barod.

Cyswllt cyntaf â bydwraig neu feddyg

Cysylltwch â meddyg teulu neu fydwraig cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ddarganfod eich bod yn feichiog.

Dylent roi gwybodaeth i chi am:

  • atchwanegiadau asid ffolig
  • maeth, deiet a hylendid bwyd
  • ffactorau ffordd o fyw – fel ysmygu, yfed a defnyddio cyffuriau hamdden
  • profion sgrinio cyn-geni

Mae’r profion sgrinio cyn-geni yn cynnwys sgan dyddio beichiogrwydd cynnar,  sgrinio ar gyfer clefyd crymangelloedd a thalassaemia, clefydau trosglwyddadwy, grŵp gwaed a gwrthgyrff, sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau a'r sgan anomaledd. Cewch fwy o wybodaeth am y profion sgrinio hyn yma.

Dylech gael trafodaeth gyda'ch bydwraig  am risgiau, buddion a chyfyngiadau’r profion hyn.

Mae'n bwysig dweud wrth eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • am unrhyw gymhlethdodau neu heintiau yn ystod beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth flaenorol, fel cyneclampsia neu enedigaeth gynamserol
  • os ydych yn cael eich trin am gyflwr hirdymor, fel diabetes neu bwysedd gwaed uchel
  • os ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu wedi cael babi â chyflwr iechyd o'r blaen (er enghraifft spina bifida)
  • am hanes teuluol o gyflwr a etifeddwyd (er enghraifft crymangelloedd neu ffibrosis systig)
  • rydych yn gwybod eich bod yn gludwr genetig cyflwr a etifeddwyd, fel crymangelloedd neu thalassaemia – dylech hefyd ddweud wrth y fydwraig os ydych yn gwybod bod tad biolegol y babi yn gludwr genetig y cyflyrau hyn
  • os ydych wedi cael triniaeth ffrwythlondeb a naill ai wy rhoddwr neu sberm rhoddwr

8 i 12 wythnos: apwyntiad cofrestru

Mae'n well gweld eich bydwraig neu'ch meddyg cyn gynted â phosibl er mwyn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael beichiogrwydd iach.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg roi gwybodaeth i chi am:

  • sut mae'r babi'n datblygu yn ystod beichiogrwydd
  • maeth a deiet
  • ymarferion ymarfer corff ac ymarferion llawr y pelfis
  • profion sgrinio cyn-geni
  • eich gofal cyn-geni
  • bwydo ar y fron, gan gynnwys gweithdai
  • addysg cyn-geni
  • budd-daliadau mamolaeth
  • eich opsiynau ar gyfer ble i gael eich babi

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • roi eich cofnod mamolaeth a'ch cynllun gofal i chi
  • gweld a oes angen gofal neu gymorth ychwanegol arnoch chi
  • cynllunio'r gofal a gewch drwy gydol eich beichiogrwydd
  • amlygu unrhyw risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw waith y gallech ei wneud
  • mesur eich taldra a'ch pwysau, a chyfrifo mynegai màs eich corff (BMI)
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • darganfod a ydych mewn mwy o berygl o gael diabetes beichiogrwydd neu gyneclampsia
  • cynnig profion sgrinio i chi a gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth sy'n gysylltiedig cyn i chi benderfynu cael unrhyw un ohonynt
  • cynnig sgan uwchsain i chi rhwng 8 ac 14 wythnos i amcangyfrif pryd bydd eich babi’n cael ei eni
  • cynnig sgan uwchsain i chi rhwng 18 a 20 wythnos i wirio datblygiad corfforol eich babi
  • holi am eich hwyliau i adnabod iselder posibl a holi am unrhyw salwch meddwl difrifol neu driniaeth seiciatrig yn y gorffennol neu ar hyn o bryd

Mae'r apwyntiad hwn yn gyfle i ddweud wrth eich bydwraig neu'ch meddyg os ydych chi mewn sefyllfa fregus neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi.

Gallai hyn fod oherwydd cam-drin domestig neu drais, cam-drin rhywiol neu anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).

Gall anffurfio organau cenhedlu benywod achosi problemau yn ystod yr esgor a’r geni, a all fod yn fygythiol i’r fam a’r babi.

Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth eich bydwraig neu'ch meddyg os yw hyn wedi digwydd i chi.

8 i 14 wythnos: sgan dyddio beichiogrwydd cynnar  (tua 12 wythnos yn feichiog)

Dyma'r sgan uwchsain i amcangyfrif pryd bydd eich babi’n cael ei eni, gwirio datblygiad corfforol eich babi, a sgrinio ar gyfer annormaleddau posibl. Os ydych chi wedi penderfynu cael sgriniad ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau, bydd angen gwneud y sgan hwn rhwng 11 ac 14 wythnos eich beichiogrwydd.

16 wythnos yn feichiog

Bydd eich bydwraig neu feddyg yn rhoi gwybodaeth i chi am y sgan uwchsain a gynigir i chi rhwng 18 a 20 wythnos.

Byddant hefyd yn helpu gydag unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • adolygu, trafod a chofnodi canlyniadau unrhyw brofion sgrinio
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • ystyried atchwanegiad haearn os ydych chi’n anemig

18 i 20 wythnos

Byddwch yn cael cynnig y sgan uwchsain anomaledd  i wirio datblygiad corfforol eich babi. Gelwir hyn hefyd yn sgan 20 wythnos.

O 16 wythnos, byddwch yn cael cynnig brechlyn y pas. Yr amser gorau i gael y brechlyn hwn yw ar ôl eich sgan, hyd at 32 wythnos.

Ond os byddwch yn methu’r brechlyn am unrhyw reswm, gallwch ei gael hyd nes y byddwch yn dechrau esgor.

25 wythnos yn feichiog

Byddwch yn cael apwyntiad am 25 wythnos os dyma'ch babi cyntaf.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • ddefnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein

28 wythnos

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • ddefnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • cynnig rhai profion sgrinio
  • cynnig sgrinio ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff
  • ailgynnig sgriniad ar gyfer HIV, syffilis a hepatitis B i fenywod a ddewisodd beidio â'i gael yn gynharach yn ystod eu beichiogrwydd. Argymhellir y profion hyn gan eu bod yn lleihau'r risg o drosglwyddo haint o fam i fabi yn fawr
  • cynnig eich triniaeth gwrth-D os ydych yn rhesws-negatif
  • ystyried atchwanegiad haearn os ydych yn anemig

31 wythnos

Byddwch yn cael apwyntiad am 31 wythnos os hwn yw eich babi cyntaf.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • adolygu, trafod a chofnodi canlyniadau unrhyw brofion sgrinio o'r apwyntiad diwethaf
  • defnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein

34 wythnos

Dylai eich bydwraig neu feddyg roi gwybodaeth i chi am baratoi ar gyfer esgor a geni, gan gynnwys sut i adnabod esgor gweithredol, ffyrdd o ymdopi â phoen yn ystod esgor, a'ch cynllun geni.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • adolygu, trafod a chofnodi canlyniadau unrhyw brofion sgrinio o'r apwyntiad diwethaf
  • defnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein

Dylai eich bydwraig neu feddyg roi gwybodaeth i chi am doriad Cesaraidd, gan y bydd tua 1 o bob 4 menyw yn cael hynny.

Gall y drafodaeth hon ddigwydd yn yr apwyntiad 34 wythnos, neu ar adeg arall yn ystod eich beichiogrwydd.

Byddant yn trafod gyda chi'r rhesymau pam y gellid cynnig toriad Cesaraidd, beth mae'r weithdrefn yn ei olygu, y risgiau a'r manteision, a'r goblygiadau ar gyfer beichiogrwydd a genedigaethau yn y dyfodol.

40 wythnos

Byddwch yn cael apwyntiad am 40 wythnos os dyma'ch babi cyntaf.

Dylai eich bydwraig neu feddyg roi mwy o wybodaeth i chi am beth sy'n digwydd os bydd eich beichiogrwydd yn para mwy na 41 wythnos. Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • ddefnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein

36 wythnos

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg roi gwybodaeth i chi am:

  • fwydo ar y fron
  • gofalu am eich babi newydd-anedig
  • fitamin K a phrofion sgrinio ar gyfer eich babi newydd-anedig
  • eich iechyd eich hun ar ôl i'ch babi gael ei eni
  • y "baby blues" ac iselder ôl-enedigol

Bydd eich bydwraig neu'ch meddyg hefyd yn:

  • defnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • gwirio safle eich babi
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • cynnig fersiwn ceffalig allanol (ECV) os yw’ch babi yn y safle ffolennol

38 wythnos

Bydd eich bydwraig neu'ch meddyg yn trafod yr opsiynau a'r dewisiadau ynghylch beth fydd yn digwydd os bydd eich beichiogrwydd yn para mwy na 41 wythnos.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • defnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein

40 wythnos

Byddwch yn cael apwyntiad am 40 wythnos os dyma'ch babi cyntaf.

Dylai eich bydwraig neu feddyg roi mwy o wybodaeth i chi am beth fydd yn digwydd os bydd eich beichiogrwydd yn para mwy na 41 wythnos.

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • ddefnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • gofyn am symudiadau eich babi

41 wythnos

Dylai eich bydwraig neu'ch meddyg:

  • ddefnyddio tâp mesur i fesur maint eich croth
  • mesur eich pwysedd gwaed a phrofi eich wrin ar gyfer protein
  • cynnig ysgubiad pilen
  • trafod yr opsiynau a'r dewisiadau ar gyfer cymell esgor
  • gofyn am symudiadau eich babi

42 wythnos

Os nad ydych wedi cael eich babi erbyn wythnos 42 ac wedi dewis peidio â chymell geni, dylech gael cynnig monitro cynyddol o’r babi.

Amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau cyn-geni

Dysgwch fwy am hawliau i amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau cyn-geni ar dudalen GOV.UK ar weithio pan fyddwch yn feichiog: eich hawliau.


Last Updated: 10/05/2023 13:25:45
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk