Gwybodaeth beichiogrwydd


Bwydo o'r fron: y dyddiau cyntaf

Yn ystod y dyddiau cyntaf, byddwch chi a'ch babi yn dod i adnabod eich gilydd. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i'r ddau ohonoch i gyfarwyddo â bwydo ar y fron.

Mae hyn yn digwydd yn gyflymach i rai merched nag eraill.  Ond mae bron pob merch yn cynhyrchu digon o laeth i'w babi.

Paratoi ar gyfer bwydo ar y fron cyn yr enedigaeth

Mae'n syniad da i gasglu cymaint ag y gallwch o wybodaeth am fwydo ar y fron cyn yr enedigaeth. Mae gwybod beth i'w ddisgwyl yn mynd i’ch gwneud yn fwy hyderus cyn y byddwch chi’n rhoi genedigaeth ac am fwydo eich babi ar y fron.

Dylai sesiynau cyn yr enedigaeth sy’n cael eu cynnal gan y GIG neu sefydliad arall, drafod yr agweddau pwysicaf o fwydo ar y fron, fel lleoli ac ymlyniad, tynnu llaeth o’r fron. Fe fyddan nhw hefyd yn trafod cwestiynau a phryderon cyffredin, a sut i'w goresgyn. Rydych chi’n gallu cael mwy o wybodaeth gan eich bydwraig, eich teulu a'ch ffrindiau.

Mae sawl grŵp a sesiwn galw heibio ar gael. Mae rhai wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer merched beichiog sydd am wybod mwy am fwydo ar y fron. Rydych chi’n gallu cael mwy o wybodaeth drwy ofyn i'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu lleol.

Cyswllt croen-i-groen

Bydd cael cyswllt croen-i-groen gyda’r babi yn syth ar ôl yr enedigaeth yn helpu i'w gadw'n gynnes a thawel gan dawelu’r anadlu.

Mae cyffyrddiad croen-i-groen yn golygu eich bod yn dal eich babi'n noeth neu ei wisgo mewn cewyn neu glwt yn erbyn eich croen, fel arfer o dan eich top neu o dan flanced.

Mae amser croen-i-groen yn gallu creu cwlwm o agosatrwydd rhyngoch chi a’r babi. Mae hefyd yn amser gwych i fwydo eich babi ar y fron am y tro cyntaf.  Os oes angen unrhyw help arnoch chi, bydd eich bydwraig yn eich cefnogi gyda lleoli ac ymlyniad.

Mae cyswllt croen-i-groen yn wych ar unrhyw adeg. Bydd yn helpu i'ch cysuro chi a'r babi dros y dyddiau a'r wythnosau cyntaf wrth i chi ddod i adnabod eich gilydd. Mae hefyd yn helpu eich babi i sugno ar y fron gan ddefnyddio greddf naturiol y babi.

Os yw cyswllt croen-i-groen yn cael ei ohirio am ryw reswm - er enghraifft, os oes angen i'r babi dreulio peth amser mewn gofal arbennig - nid yw hynny’n golygu na fyddwch chi’n gallu sefydlu cwlwm o agosatrwydd rhyngoch chi â'ch babi neu ei fwydo ar y fron.

Os bydd angen, bydd eich bydwraig yn dangos i chi sut i dynnu eich llaeth nes bod eich babi'n barod i fwydo ar y fron.  Bydd y fydwraig hefyd yn eich helpu i gael cyswllt croen â'ch babi cyn gynted â phosibl.

Cyswllt croen-i-groen ar ôl triniaeth cesaraidd

Os ydy eich babi yn cael ei eni gan lawdriniaeth cesaraidd, dylech chi fod yn gallu cael cyswllt croen â'ch babi yn syth ar ôl yr enedigaeth.

Colostrwm: eich llaeth cyntaf

Mae’r hylif y mae eich bronnau'n ei gynhyrchu yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl genedigaeth yn cael ei alw’n golostrwm.  Mae fel arfer yn lliw melyn euraidd.  Mae'n fwyd dwys iawn, felly dim ond tua llwy de y bydd ei angen ar eich babi pan fydd yn cael ei fwydo ar y fron.

Efallai y bydd eich babi am fwydo'n eithaf aml, efallai bob awr i ddechrau.  Bydd yn dechrau bwydo’n llai aml ond am hirach unwaith y bydd eich bronnau'n dechrau cynhyrchu llaeth mwy 'aeddfed' ar ôl ychydig ddyddiau.

Po fwyaf y byddwch chi’n bwydo ar y fron,  y mwyaf y bydd y babi yn sugno, yna’r mwyaf fydd eich cyflenwad o laeth.

Rhyddhau’r llaeth (let-down reflex)

Mae sugno’r babi yn achosi i laeth sy'n cael ei storio yn eich bronnau gael ei wasgu i lawr dwythell (duct) tuag at eich teth. 

Mae rhai merched yn cael teimlad cosi, sy'n gallu bod yn eithaf pwerus.  Dydy eraill ddim yn teimlo dim o gwbl.

Byddwch yn gweld eich babi yn ymateb pan fydd eich llaeth yn cael ei ryddhau.  Bydd ei sugno cyflym yn newid i lyncu rhythmig dwfn wrth i'r llaeth ddechrau llifo.  Mae babanod yn aml yn oedi ar ôl y sugno cychwynnol cyflym tra byddan nhw’n aros i fwy o laeth gael ei gyflenwi.

O bryd i'w gilydd gall y rhyddhau hwn fod mor gryf fel bod eich babi'n pesychu a phoeri.  Bydd eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron yn gallu helpu gyda hyn. Gallwch hefyd chwilio am rai awgrymiadau os oes gennych chi ormod o laeth yn y fron.

Os yw'n ymddangos bod eich babi'n syrthio i gysgu cyn y cyfnod llyncu dwfn, efallai na fydd y plentyn wedi ei gysylltu â'r fron yn iawn.  Cofiwch edrych i weld os ydy’r babi wedi’i gysylltu’n iawn â’r fron. Gallwch ofyn i’r fydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch arbenigwr bwydo ar y fron eich gwylio yn bwydo’r babi.

Weithiau fe fyddwch yn sylwi ar eich llaeth yn cael ei ryddhau fel ymateb i grio eich babi neu pan fyddwch chi’n cael bath neu gawod gynnes.  Mae hyn yn normal.

Pa mor aml y bydd fy mabi'n bwydo ar y fron?

Mae pa mor aml y mae babi yn bwydo yn amrywio.  Fel canllaw bras iawn, dylai eich babi fwydo o leiaf wyth gwaith neu fwy bob 24 awr yn ystod yr wythnosau cyntaf.

Mae'n iawn bwydo eich babi pryd bynnag y bydd yn llwglyd, pan fydd eich bronnau'n teimlo'n llawn neu os ydych am gael cwtsh.

Dydy hi ddim yn bosibl gorfwydo babi sy'n bwydo ar y fron.

Pan fydd eich babi'n llwglyd, efallai y bydd yn:

  • aflonydd
  • sugno ei ddyrnau neu ei fysedd
  • gwneud synau grwgnach
  • troi ei ben ac agor ei geg (gwreiddio - rooting)

Mae'n well ceisio bwydo eich babi yn ystod y ciwiau bwydo cynnar hyn gan ei bod yn anodd bwydo babi sy'n crio.

Cynyddu eich cyflenwad llaeth

Tua 2 i 4 diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni, efallai y byddwch chi’n sylwi bod eich bronnau'n  llawnach. Cyfeirir at hyn yn aml fel eich llaeth yn "dod i mewn".

Bydd eich llaeth yn amrywio yn ôl anghenion eich babi. Bob tro y bydd eich babi'n bwydo, mae eich corff yn gwybod bod angen mwy o laeth i’ch babi ar gyfer y tro nesaf mae’n cael ei fwydo. Bydd faint o laeth rydych chi’n ei gynhyrchu’n cynyddu neu'n gostwng yn dibynnu ar ba mor aml y mae eich babi'n bwydo.

Dylech chi fwydo eich babi mor aml ag y mae’n dymuno ac am gyhyd ag y mae’n dymuno. Yr enw am hwn yw bwydo ymatebol. Mewn geiriau eraill, ymateb i anghenion eich babi. Enw arall am hyn yw bwydo ar alw neu eich bod yn cael eich arwain gan y babi.

Ar y dechrau mae’n gallu teimlo fel eich bod yn gwneud dim ond bwydo. Ond yn raddol byddwch chi a'ch babi yn dilyn patrwm a bydd faint o laeth rydych chi'n ei gynhyrchu yn setlo i lawr.

Mae'n bwysig bwydo ar y fron yn y nos gan mai dyma pryd y byddwch chi’n cynhyrchu mwy o hormonau (prolactin) i gynyddu eich cyflenwad llaeth.

Yn yr wythnosau cynnar, cyn i chi a'ch babi ddod yn gyfforddus gyda bwydo ar y fron, mae rhoi ychydig o laeth fformiwla neu ddymi i'ch babi yn gallu lleihau eich cyflenwad llaeth.

Siaradwch â bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydych chi’n poeni am fwydo ar y fron neu os ydych chi’n credu nad yw eich babi'n cael digon o laeth.

Efallai y byddan nhw’n awgrymu rhoi rhywfaint o laeth y fron rydych wedi’i dynnu i'ch babi ynghyd â bwydo ar y fron.

 

 

Delio â bronnau sy'n gollwng

Weithiau, mae llaeth y fron yn gallu gollwng yn ddirybudd o'ch tethau.  Pwyswch waelod eich llaw yn dyner ond yn gadarn ar eich bron pan fydd hyn yn digwydd.

Bydd gwisgo pad ar gyfer y fron yn atal eich dillad rhag cael eu gwlychu gan laeth o’r fron.  Cofiwch eu newid yn aml i atal unrhyw haint.

Mae tynnu rhywfaint o laeth yn gallu helpu hefyd.  Tynnwch ddigon o laeth i deimlo'n gyfforddus gan nad ydych chi am or-ysgogi eich cyflenwad o laeth.

Os nad ydy eich babi wedi bwydo'n ddiweddar rydych chi’n gallu cynnig i fwydo’r babi gan fod bwydo ar y fron hefyd yn cynnwys eich bod chi’n gyfforddus.

Help a chefnogaeth ar gyfer bwydo ar y fron

  • I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn gyfforddus a gwneud yn siŵr bod eich babi wedi'i ymlynu’n iawn, gweler Lleoli ac ymlyniad. <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/breastfeedingpositioning/?locale=cy>
  • Os ydych yn cael anawsterau gyda bwydo ar y fron, edrychwch ar Broblemau bwydo ar y fron
  • Gofynnwch i'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd am help.  Gallan nhw hefyd ddweud wrthych chi am gymorth bwydo ar y fron arall sydd ar gael yn eich ardal chi.
  • Chwiliwch ar-lein am gymorth bwydo ar y fron sydd ar gael yn eich ardal chi.
  • Ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212 (9.30am -9.30pm bob dydd)
  • Llyfryn bwydo ar y fron Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael rhagor o wybodaeth am fwydo ar y fron.

Last Updated: 25/05/2023 10:57:43
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk