Gwybodaeth beichiogrwydd


Alcohol a Meddyginiaethau

Alcohol a chyffuriau yn ystod beichiogrwydd

Pan fyddwch yn yfed, mae alcohol yn pasio o'ch gwaed drwy'r brych ac i'ch babi. Afu/iau'r babi yw un o'r organau diwethaf i ddatblygu yn llawn ac nid yw'n aeddfedu tan hanner olaf y beichiogrwydd. Ni all eich babi brosesu alcohol cystal ag y gallwch chi, a gall gormod o gysylltiad ag alcohol effeithio'n ddifrifol ar ddatblygiad eich babi. Oherwydd y risg yma osgowch yfed alcohol os ydych yn feichiog neu'n ceisio beichiogi.

Os byddwch yn dewis yfed, amddiffynwch eich babi drwy beidio ag yfed mwy na rhwng un a ddwy uned o alcohol unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a pheidiwch â meddwi. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn cynghori merched sy'n feichiog i osgoi alcohol yn ystod y tri mis cyntaf yn arbennig, oherwydd y risg uwch o erthyliad.

Mae yfed alcohol yn beryglus i'ch babi nid yn unig yn ystod y tri mis cyntaf ond gall effeithio ar eich babi drwy gydol eich beichiogrwydd. Os ydych yn yfed yn drwm yn ystod beichiogrwydd, gallai eich babi ddatblygu grwp o broblemau a elwir Syndrom Alcohol y Ffetws (FAS). Mae plant â'r syndrom hwn yn dioddef:

  • twf cyfyngedig
  • anormaleddau yn eu hwynebau
  • anhwylderau dysgu ac ymddygiadol

Gall or-yfed mwy nag un neu ddwy uned unwaith neu ddwywaith yr wythnos cael ei gysylltu â mathau llai o FAS. Mae'r risg yn debygol o fod yn uwch po fwyaf y byddwch yn yfed. Os ydych yn yfed gyda ffrindiau:

  • dewch o hyd i ddiod di-alcohol yr ydych yn ei fwynhau
  • sipian unrhyw alcohol yr ydych yn ei yfed yn araf er mwyn iddo bara'n hwy
  • peidiwch â gadael i bobl roi pwysau arnoch i yfed
  • osgowch feddwi

Beth yw uned?

Un uned yn y DU yw 10ml (neu wyth gram) o alcohol pur. Mae hyn yn hafal i:

  • hanner peint o gwrw, lager neu seidr o alcohol cyfaint 3.5% (ABV: gallwch ddod o hyd i hyn ar y label)
  • mesur sengl (25ml) o wirod, fel wisgi, jin, rym neu fodca, sydd ag ABV o 40%
  • hanner gwydraid safonol o win ag ABV 11.5%

Os ydych yn cael trafferth torri i lawr ar yr hyn rydych yn ei yfed, siaradwch â'ch bydwraig, meddyg neu fferyllydd. Mae cymorth cyfrinachol a chefnogaeth ar gael gan wasanaethau cwnsela lleol (neu cysylltwch â Dan 24/7 Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar 0808 1410044).

Pils a meddyginiaethau

Gall meddyginiaethau, gan gynnwys cyffuriau lleddfu poen cyffredin, niweidio iechyd eich babi. Mae meddyginiaeth i drin cyflyrau tymor hir megis thyroid gorweithgar, thyroid tanweithgar, diabetes ac epilepsi. I fod yn siwr bod meddyginiaeth yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd:

  • siarad â'ch meddyg, bydwraig neu fferyllydd bob amser cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth
  • sicrhau bod eich meddyg, deintydd nu unrhyw weithwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gwybod eich bod yn feichiog cyn iddynt ragnodi unrhyw beth neu roi triniaeth i chi
  • siarad â'ch meddyg ar unwaith os ydych yn cymryd meddyginiaeth reolaidd, yn ddelfrydol cyn i chi ddechrau ceisio beichiogi neu cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod yn feichiog
  • defnyddio cyn lleied o feddyginiaethau dros-y-cownter ag y bo modd

Mae meddyginiaethau a thriniaethau sydd fel arfer yn ddiogel yn cynnwys:

Fodd bynnag, dylech gadarnhau hyn gyda'ch bydwraig, meddyg neu fferyllydd, bob amser, yn gyntaf.

Cyffuriau anghyfreithlon

Gall ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon (gan gynnwys canabis, ecstasi, cocen a heroin) gael effaith difrifol ar eich babi. Fodd bynnag, ni ddylai pobl sydd yn defnyddio cyffuriau'n rheolaidd ymatal rhag eu defnyddio'n sydyn heb gael cyngor meddygol yn gyntaf. Mae hyn oherwydd problemau ciliad a sgil effeithiau eraill.

Gall triniaeth am gyffuriau bod o fudd i chi a'ch baban trwy'ch cynhorthwyo i oresgyn eich dibyniaeth. Os ydych chi'n defnyddio cyffuriau neu alcohol, neu rydych yn meddwl bod problem camddefnyddio sylweddau arnoch chi, mae hi'n bwysig i chi ymofyn am gymorth yn syth er mwyn derbyn y cyngor a chymorth cywir.

Fe allwch chi dderbyn cymorth gan eich tim mamolaeth, eich meddyg teulu a gan wasanaethau triniaeth arbennig. Fe allan nhw eich helpu i ddod o hyd i ystod eang o wasanaethau eraill fel cynhaliaeth gyn-geni a theuluol.

Am ragor o wybodaeth am sut mae derbyn y cymorth sydd ei angen gofynnwch i'ch meddyg teulu am driniaeth am gyffuriau neu ewch at wefan FRANK er mwyn dod o hyd i wasanaethau cynnal yn eich ardal chi.

 

 

 


Last Updated: 10/05/2023 13:25:54
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk