Gwybodaeth beichiogrwydd


Teimlo'n Isel ar ôl Genedigaeth

Yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl genedigaeth, mae llawer o fenywod yn dioddef gyda’r felan neu’r ‘baby blues’ yn Saesneg. Mae menywod yn gallu teimlo'n isel ar adeg pan fyddan nhw’n disgwyl y dylen nhw deimlo'n hapus am gael babi i ofalu amdano. Mae'n debyg bod y felan yn deillio o'r newidiadau hormonaidd a chemegol sydyn sy'n digwydd yn eich corff ar ôl genedigaeth.

Mae symptomau yn gallu cynnwys:

  • teimlo'n emosiynol ac yn afresymol
  • bod yn ddagreuol am ddim rheswm amlwg
  • teimlo'n flin neu'n bigog
  • teimlo'n isel neu'n bryderus

Mae'r holl symptomau hyn yn normal ac fel arfer dim ond am ychydig ddyddiau y maen nhw’n para.

A yw'n iselder ôl-enedigol?

Mae iselder ar ôl geni babi yn gallu bod yn ofidus. Credir bod iselder ôl-enedigol (postnatal depression) yn effeithio ar tua un o bob 10 menyw (a hyd at bedwar o bob 10 mam yn eu harddegau).

Mae llawer o fenywod yn dioddef yn dawel. Dydy eu ffrindiau, eu perthnasau a gweithwyr iechyd proffesiynol ddim yn gwybod sut maen nhw'n teimlo.

Fel arfer, mae iselder ôl-enedigol yn digwydd ddwy i wyth wythnos ar ôl yr enedigaeth, ond weithiau mae’n gallu digwydd hyd at flwyddyn ar ôl i'r babi gael ei eni.

Mae symptomau fel blinder, anniddigrwydd neu archwaeth gwael yn normal os ydych chi newydd gael babi. Ond mae'r rhain fel arfer yn ysgafn a dydyn nhw ddim yn eich atal rhag byw bywyd normal.

Pan fyddwch chi’n dioddef gydag iselder ôl-enedigol, efallai y byddwch chi’n teimlo'n fwyfwy digalon neu'n anobeithiol. Mae gofalu amdanoch chi eich hun neu'ch babi yn gallu mynd yn ormod. Mae arwyddion emosiynol o iselder ôl-enedigol yn gallu cynnwys:

  • colli diddordeb yn y byd o'ch cwmpas a pheidio â mwynhau pethau a oedd yn arfer rhoi pleser i chi (fel chi "ni ellir poeni")
  • teimladau o anobaith
  • methu â rhoi'r gorau i grio
  • teimladau eich bod yn methu ymdopi
  • methu â mwynhau unrhyw beth
  • colli’ch cof neu fethu canolbwyntio
  • pryder gormodol am y babi

Mae arwyddion eraill o iselder ôl-enedigol yn gallu cynnwys:

  • diffyg cwsg
  • blinder eithafol
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol
  • gorbryder
  • colli archwaeth bwyd

Cael help ar gyfer iselder ôl-enedigol

Mae'n bwysig ceisio cymorth cyn gynted â phosibl os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn isel eich ysbryd, oherwydd gallai eich symptomau bara am fisoedd neu waethygu a chael effaith sylweddol arnoch chi, eich babi a'ch teulu.

Gyda'r gefnogaeth gywir mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr.

Os credwch y gallech fod yn isel eich ysbryd, siaradwch â meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd cyn gynted â phosibl er mwyn i chi allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch.

Triniaeth ar gyfer iselder ôl-enedigol

Y 3 phrif fath o driniaeth ar gyfer iselder ôl-enedigol yw:

  • hunangymorth – er enghraifft, siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau am eich teimladau, neilltuo amser i wneud pethau rydych yn eu mwynhau, cael cymaint o gwsg ag y gallwch yn y nos, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a bwyta deiet iach
  • therapi seicolegol – efallai y bydd meddyg teulu yn gallu argymell cwrs hunangymorth neu eich cyfeirio am gwrs o therapi, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
  • gwrth-iselder – efallai y bydd y rhain yn cael eu hargymell os yw eich iselder yn fwy difrifol neu os nad yw triniaethau eraill wedi helpu; gall eich meddyg ragnodi meddyginiaeth sy'n ddiogel i'w chymryd tra'n bwydo ar y fron

Siaradwch â meddyg teulu am fanteision ac anfanteision gwahanol driniaethau er mwyn i chi allu penderfynu gyda'ch gilydd beth sydd orau i chi.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â'r Gymdeithas ar gyfer Salwch Ôl-enedigol neu'r Ymddiriedolaeth Geni Plant Genedlaethol.

Mae'r elusen iechyd meddwl Mind yn darparu adnoddau defnyddiol i bobl y mae iselder ôl-enedigol yn effeithio arnynt.

Gall eich canolfan blant leol eich rhoi mewn cysylltiad â'ch grŵp ôl-enedigol agosaf.

Mae'r grwpiau hyn yn darparu cyswllt â mamau newydd eraill ac yn annog mamau i gefnogi ei gilydd. Maent hefyd yn cynnig gweithgareddau cymdeithasol a chymorth gyda sgiliau magu plant.

Osgoi alcohol

Efallai y byddai’n ymddangos bod alcohol yn eich helpu i ymlacio a dadflino. Mewn gwirionedd, mae'n gallu effeithio ar eich hwyliau, eich barn, eich hunanreolaeth a'ch cydsymudiadau. Mae alcohol yn cael hyd yn oed mwy o effaith pan fyddwch chi wedi blino. Byddwch yn ofalus ynghylch pryd a faint rydych chi'n ei yfed, a pheidiwch ag yfed alcohol os ydych chi'n cymryd tabledi gwrth-iselder neu dabledi lleddfu gorbryder.

Seicosis ôl-enedigiol (postpartum psychosis)

Mae'r cyflwr hwn, sydd hefyd yn cael ei alw’n iselder-ôl esgor, yn brin iawn. Dim ond un neu ddwy fam mewn 1,000 sy'n datblygu salwch seiciatrig difrifol sy'n gofyn am driniaeth feddygol neu arhosiad yn yr ysbyty ar ôl genedigaeth babi. Mae’r salwch hwn yn gallu datblygu o fewn oriau o enedigaeth ac mae'n ddifrifol iawn, ac mae angen rhoi sylw brys iddo.

Mae pobl eraill fel arfer yn sylwi arno'n gyntaf gan fod y fam yn aml yn ymddwyn yn rhyfedd. Mae'n fwy tebygol o ddigwydd os oes gennych salwch meddwl difrifol, hanes yn y gorffennol o salwch meddwl difrifol neu hanes teuluol o salwch meddwl amenedigol. Mae unedau mamau a babanod arbenigol yn gallu darparu triniaeth arbenigol heb eich gwahanu oddi wrth eich babi.

Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn gwella'n llwyr, er bod hyn yn gallu cymryd ychydig wythnosau neu fisoedd.

Anhwylder Straen ôl-drawmatig ôl-enedigol (PTSD)

Mae anhwylder straen ôl-drawmatig ôl-enedigol (postnatal post-traumatic stress disorder) yn aml yn ganlyniad i enedigaeth drawmatig, fel esgor hir neu boenus, neu enedigaeth frys neu broblemus. Mae hefyd yn gallu datblygu ar ôl mathau eraill o drawma, fel:

  • ofn eich bod yn mynd i farw neu fod eich babi'n mynd i farw
  • sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd

Mae symptomau ôl-enedigol PTSD yn gallu digwydd ar eu pennau eu hunain neu'n ychwanegol at symptomau iselder ôl-enedigol. 

Mae’r symptomau yn gallu datblygu'n syth ar ôl yr enedigaeth neu fisoedd ar ôl hynny.

Mae'n hynod bwysig siarad â rhywun am sut rydych chi'n teimlo. Bydd eich bydwraig, eich meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd yn gallu eich helpu. Os ydych chi'n poeni am siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol, ystyriwch ofyn i ffrind agos neu aelod o'r teulu ddod gyda chi am gymorth.

Mae triniaethau effeithiol ar gael, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT – cognitive behavioural therapy) a meddyginiaethau.


Last Updated: 13/06/2023 12:45:43
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk