Gwybodaeth beichiogrwydd


Heintiau

Rwbela

Os ydych yn cael rwbela (frech Almaeneg) yn ystod pedwar mis cyntaf eich beichiogrwydd, gall effeithio'n ddifrifol ar lygaid a chlyw eich babi, ac yn achosi diffygion ar yr ymennydd a chalon. Mae pob plentyn nawr, yn cael cynnig brechlyn yn erbyn rwbela drwy imiwneiddiad MMR pan fyddant yn 13 mis oed ac un arall cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.

Os nad ydych yn imiwn ac rydych yn dod i gysylltiad â rwbela, dywedwch wrth eich meddyg ar unwaith. Bydd profion gwaed yn dangos a ydych wedi cael eich heintio a byddwch yn gallu penderfynu pa gamau i'w cymryd.

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) ar gynydd, a'r un fwyaf cyffredin yw clamydia. Yn aml, nid oes unrhyw symptomau gyda'r heintiau hyn felly mae'n bosib na fyddwch chi'n gwybod bod un arnoch chi. Fodd bynnag, gall llawer o'r heintiau rhywiol hyn effeithio ar iechyd eich babi, yn ystod beichiogrwydd, ac ar ôl yr enedigaeth.

Os oes gennych unrhyw reswm dros gredu y gallech chi, neu eich partner, bod â haint a drosglwyddir yn rhywiol arnoch, ewch am archwiliad cyn gynted â phosib. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu neu fydwraig neu, os yw'n well gennych, ewch i glinig meddyginiaeth cenhedlol-wrinol (GUM) neu glinig iechyd rhywiol. Mae cyfrinachedd y gwasanaeth yn cael ei warantu. Dewch o hyd i wasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal chi, gan gynnwys clinigau GUM neu iechyd rhywiol.

HIV ac AIDS

Byddwch yn cael cynnig prawf HIV cyfrinachol fel rhan o'ch gofal cyn-geni arferol. Bydd eich bydwraig neu'ch meddyg yn drafod prawf â chi, a bydd cynghori ar gael os yw'r canlyniad yn un positif. Darganfod am ymdopi â phrawf HIV positif. Gallwch hefyd fynd i glinig iechyd rhywiol am brawf HIV a chyngor.

Mae tystiolaeth bresennol yn awgrymu bod mam sy'n HIV positif, sydd mewn iechyd da, a heb symptomau'r haint yn annhebygol o gael ei heffeithio'n andwyol gan feichiogrwydd. Gall mamau sy'n HIV positif drosglwyddo'r firws trwy laeth y fron. Fodd bynnag, mae'n bosibl lleihau'r perygl o drosglwyddo HIV i'ch babi yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. Mae mwy o wybodaeth am y risgiau hyn ar y dudalen ar archwiliadau a phrofion cyn-geni.

Os ydych yn HIV positif, siaradwch â'ch meddyg neu'ch bydwraig am eich iechyd eich hun a'r opsiynau sydd ar gael i chi, neu cysylltwch â sefydliadau megis 'Positively UK' neu Ymddiriedolaeth Terrence Higgins am wybodaeth a chymorth. Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr a mwy o wybodaeth ar HIV a beichiogrwydd.

Hepatitis B

Firws sydd yn heintio'r iau/afu yw hepatitis B, I lawer o bobl ni fydd arnynt arwydd eu bod yn dioddef o'r salwch, ond gallent fod yn gariwr a gallent heintio eraill. Mae'r haint yn cael ei ledaenu trwy gael rhyw, heb gondom, a rhywun sydd wedi'i heintio a thrwy waed sydd wedi'i heintio. Os oes Hepatitis B arnoch, neu eich bod yn cael eich heintio tra byddwch yn feichiog gall yr haint cael ei basio i'ch babi yn ystod yr enedigaeth.

Cyngirir prawf gwaed am Hepatitis B i bob menyw feichiog fel rhan o'u gofal cyn-enedigol. Dylai babanod wrth risg gael y brechiad yn erbyn Hepatiits B wrth gael eu geni i'w hamddiffyn rhag cael eu heintio, ac i atal clefyd yr iau/afu difrifol nes ymlaen yn eu bywydau. Bydd cael eu brechu wrth gael eu geni yn llwyddo i atal 90-95% ohonynt rhag cael Hepatitis B a datblygu haint hir-dymor. Rhoddir y brechiad gyntaf o fewn 24 awr o'r enedigaeth, a bydd ddau frechiad arall yn cael eu rhoi, ar ôl mis a dau fis gyda dogn cryfhau am 12 mis.

Bydd angen brechiad o wrthgyrff a elwir yn 'imiwnoglobiwlin' ar rai babanod cynhir ar ôl cael eu geni. Caiff eich babi ei brofi/phrofi am haint Hepatitis B yn 12 mis oed. Dylai babanod sydd wedi'u heintio gael eu cyfeirio am asesiad arbennig a dilyniant.

Hepatitis C

Mae Hepatitis C yn firws sy'n heintio'r iau/afu. Bydd llawer o bobl â Hepatitis C arnynt heb unrhyw symptomau ac nid ydynt yn ymwybodol eu bod wedi'u heintio. Mae'r firws yn cael ei drosglwyddo trwy gysylltiad uniongyrchol â gwaed sydd wedi'i heintio. Gall hyn fod o ganlyniad i rannu nodwyddau wedi'u halogi a gwaed ac offer chwistrellu cyffuriau neu dderbyn trallwysiad gwaed yn y DU cyn mis Medi 1991 neu gynhyrchion gwaed eraill cyn 1986.

Gall Hepatitis C gael ei drosglwyddo hefyd drwy dderbyn triniaeth feddygol neu ddeintyddol mewn gwledydd lle mae Hepatitis C yn gyffredin a threfn rheoli heintiau yn wael, neu drwy gael rhyw gyda phartner sydd wedi'i heintio.

Os oes Hepatitis C arnoch, mae'n bosib i chi drosglwyddo'r haint i'ch babi, er bod y risg yn llawer is na gyda Hepatitis B neu HIV. Ni all hyn gael ei atal ar hyn o bryd. Gall eich babi gael ei brofi/phrofi am Hepatitis C ac, os bydd eich babi yn cael ei heintio, gall ef neu hi gael eu cyfeirio am asesiad arbenigol.

Herpes

Gall haint herpes cenhedlol fod yn beryglus i fabi newydd-anedig. Gall herpes cenhedlol cael ei ddal trwy gysylltiad gwenerol gyda rhywun sydd wedi'i heintio neu o ryw geneuol gyda rhywun sydd â doluriau annwyd (herpes geneuol). Mae'r haint gwreiddiol yn achosi pothelli neu wlserau poenus ar yr organau cenhedlu. Mae achosion llai difrifol fel arfer yn digwydd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.

Os ydych chi, neu eich partner, yn dioddef o'r haint, ddefnyddiwch gondomau neu osgowch ryw yn ystod pwl o'r haint. Osgowch ryw geneuol os ydych chi neu'ch partner a doluriau annwyd neu friwiau organau rhywiol (herpes organau rhywiol cyfredol). Dywedwch wrth eich meddyg neu fydwraig os ydych chi neu'ch partner a herpes cylchol neu yn datblygu symptomau fel disgrifir uchod.

Os yw'r achos cyntaf o'r haint yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, mae triniaeth ar gael. Os yw'r achos cyntaf yn digwydd tua diwedd beichiogrwydd neu yn ystod esgor, gallai toriad cesaraidd cael ei argymell i leihau'r risg o drosglwyddo herpes i'ch babi.

Brech yr ieir

Mae tua 95% o fenywod yn imiwn i frech yr ieir. Os na ydych eisoes wedi cael brech yr ieir (neu os nad ydych yn sicr eich bod wedi ei gael) ac rydych yn dod i gysylltiad â phlentyn neu oedolyn sydd â'r haint, siaradwch â'ch meddyg teulu, obstetrydd neu fydwraig ar unwaith. Bydd prawf gwaed yn sefydlu os ydych yn imiwn. Gall haint brech yr ieir yn ystod beichiogrwydd fod yn beryglus ar gyfer y fam a'r babi, felly gofynnwch am gyngor yn gynnar. Dysgwch mwy am gymhlethdodau frech yr ieir.

Tocsoplasmosis

Gallwch ddal tocsoplasmosis drwy gysylltiad â baw cathod. Os ydych yn feichiog gall yr haint niweidio eich babi felly cymerwch ofal rhag ei ddal (gweler heintiau a drosglwyddir gan anifeiliaid, yn is i lawr y dudalen hon, neu atal tocsoplasmosis). Mae rhan fwyaf o fenywod wedi cael yr haint cyn beichiogi a byddant felly yn imiwn.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi bod mewn perygl, drafodwch y peth gyda'ch meddyg, bydwraig neu obstetrydd. Os ydych yn cael eich heintio tra byddwch yn feichiog, mae triniaeth ar gyfer tocsoplasmosis ar gael.

Parfofirws B19 (syndrom y foch goch)

Mae haint Parfofirws B19 yn gyffredin mewn plant ac yn achosi brech goch nodweddiadol ar yr wyneb, felly fe'i elwir yn aml yn syndrom y foch goch.

Er bod 60% o fenywod yn imiwn i'r haint yma, mae parfofirws yn heintus iawn a gall fod yn niweidiol i'r babi. Os ydych yn dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd wedi'i heintio, dylech siarad â'ch meddyg, a all sicrhau eich imiwnedd drwy brawf gwaed. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'r babi yn cael ei effeithio pan fydd menyw feichiog yn cael ei heintio â parfofirws.

Grwp B streptococws

Mae grwp B streptococws (GBS, neu grwp B strep) yn facteriwm sy'n cael ei gario gan hyd at 30% o bobl heb achosi unrhyw niwed neu symptomau. Mewn merched deuir o hyd iddo yn y coluddyn a'r fagina ac nid yw ef yn achosi unrhyw broblem yn y rhan fwyaf o ferched beichiog. Mewn nifer fach o achosion mae'n heintio'r babi, fel arfer ychydig cyn, neu yn ystod, y cyfnod esgor, gan arwain at salwch difrifol.

Os ydych eisoes wedi cael babi oedd â haint GBS, dylech chi gael eich cynnig gwrthfiotigau yn ystod y cyfnod esgor i leihau'r siawns y bydd eich babi newydd yn cael yr haint. Os ydych wedi cael haint grwp B streptococol o'r llwybr wrinol gyda GBS (cystitis) yn ystod y beichiogrwydd, dylech hefyd cael eich cynnig gwrthfiotigau wrth esgor.

Mae heintio'r babi â GBS yn fwy tebygol i ddigwydd os:

  • bydd eich cyfnod esgor yn gynamserol (cyn 37 wythnos o feichiogrwydd)
  • bydd eich dyfroedd yn torri yn gynnar
  • bydd gennych dwymyn yn ystod cyfnod esgor, neu
  • ydych yn cario GBS ar hyn o'r bryd

Bydd eich bydwraig neu'ch meddyg yn asesu a oes angen gwrthfiotigau yn ystod y cyfnod esgor i amddiffyn eich babi rhag cael ei heintio.

Mae'n bosibl i gael eich profi am GBS yn hwyr yn ystod beichiogrwydd os oes gennych bryderon. Siaradwch â'ch meddyg neu fydwraig.

Sytomegalofirws

Mae sytomegalofirws (CMV) yn firws cyffredin sy'n rhan o'r grwp o firysau herpes, sydd hefyd yn gallu achosi dolur annwyd. Gall haint fod yn beryglus yn ystod beichiogrwydd gan y gall achosi problemau i fabanod yn y groth. Mae hyn yn arbennig o wir os bydd menyw feichiog heb gael unrhyw gysylltiad blaenorol â CMV cyn iddi feichiogi.

Dysgwch mwy am:

Heintiau a drosglwyddir gan anifeiliaid

Cathod

Mae carthion cathod yn gynnwys tocsoplasmosis, organeb sy'n achosi haint tocsoplasmosis. Gall tocsoplasmosis niweidio eich babi. Er mwyn lleihau'r risg o haint:

  • osgowch wagio blychau gwasarn cathod tra rydych yn feichiog
  • os na all neb arall gwagio'r blwch gwasarn, defnyddiwch fenig rwber tafladwy - dylai'r blychau gael eu glanhau bob dydd a'u llenwi â dwr berwedig am bum munud
  • osgoi cyswllt agos â chathod sâl
  • gwisgwch fenig wrth arddio (hyd yn oed os nad oes gennych gath) rhag ofn bod y pridd wedi'i halogi ag ysgarthion
  • golchwch eich dwylo a'ch menig garddio ar ôl gorffen
  • os ydych yn dod i gysylltiad â baw cathod, golchwch eich dwylo yn drylwyr
  • dilynwch reolau hylendid bwyd cyffredinol, gweler sut i baratoi bwyd yn ddiogel a sut i storio bwyd yn ddiogel

Defaid

Gall wyn a defaid cario organeb o'r enw clamydia psittaci, sy'n gallu achosi camesgoriad yn famogiaid. Maent hefyd yn cario tocsoplasmosis. Dylech osgoi defaid tra eu bod yn bwrw wyn neu'n cynhyrchu llaeth a phob cyswllt ag wyn newydd-anedig. Os ydych yn profi symptomau'n debyg i'r ffliw ar ôl bod mewn cysylltiad â defaid, dywedwch wrth eich meddyg.

Moch

Mae ymchwil yn mynd yn ei flaen i weld os gall moch fod yn ffynhonnell o'r haint Hepatitis E. Mae'r haint yma yn beryglus mewn menywod beichiog, felly osgowch gysylltiad â moch ac ysgarthion moch. Does dim perygl o Hepatitis E o fwyta cynhyrchion porc wedi'i goginio.


Last Updated: 12/07/2023 09:41:41
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk