Gwybodaeth beichiogrwydd


Os Oes Gennych Gyflwr Tymor Hir

Problemau iechyd sy'n bodoli eisoes

Mae beichiogrwydd yn rhoi straen ar eich corff, a gall cyflwr eich iechyd cyn i chi feichiogi effeithio ar ba mor iach yr ydych drwy gydol eich beichiogrwydd. Gall hefyd gael effaith ar les eich babi.

Os oes arnoch chi gyflwr tymor hir neu gronig, fel epilepsi neu unrhyw un arall o'r cyflyrau a restrir isod, gall effeithio ar y penderfyniadau a wnewch ynglyn â'ch beichiogrwydd, er enghraifft ar le y byddwch am roi genedigaeth. Er nad oes, fel arfer, rheswm pam na ddylech gael beichiogrwydd esmwyth a babi iach, mae angen rheolaeth ofalus ar rai cyflyrau iechyd er mwyn lleihau'r risgiau i chi a'ch babi.

Os oes arnoch chi gyflwr cronig, gan gynnwys un o'r cyflyrau a restrir ar y dudalen hon, mae'n bwysig i wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu neu arbenigwr, yn ddelfrydol cyn i chi feichiogi, neu cyn gynted ag y byddwch yn feichiog. Er mwyn i chi, gyda'ch gilydd, ddatblygu cynllun gofal wedi'i deilwra at eich anghenion chi. Os ydych yn cymryd meddyginiaethau, peidiwch â rhoi'r gorau i'w cymryd heb ymghynghori â'ch meddyg.

Cliciwch ar y cyflwr  isod rydych am wybod mwy amdano:

Asthma a beichiogrwydd

Nid yw beichiogrwydd yn debygol o achosi asthma os nad ydych wedi ei ddioddef o flaen, ond mae ei effaith ar fenywod sydd ag asthma yn anrhagweladwy. Bydd tuag un mewn tair o ferched gydag asthma yn gweld gwelliant; na fydd un mewn tair yn gweld unrhyw newid a bydd un mewn tair yn gweld ei symptomau yn gwaethygu. Y ffordd orau i sicrhau beichiogrwydd iach yw cadw eich asthma o dan reolaeth. Cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod yn feichiog, dylech weld eich meddyg teulu am gyngor ar sut i reoli eich asthma.

Mae asthma yn gyflwr sy'n effeithio ar y tiwbiau bach (llwybrau anadlu) sy'n cludo aer i mewn ac allan o'ch ysgyfaint. Os oes arnoch asthma mae'r tiwbiau hyn yn fwy sensitif a gall chwyddo a dod yn llidiog yn hawdd. Mae hyn yn achosi iddynt gulhau a gall gynyddu cynhyrchiad o fwcws a fflem. Gall y ffactorau hyn cyfuno a'i gwneud hi'n anodd i chi gael aer i mewn ac allan o'ch ysgyfaint, gan achosi gwichian, peswch a/neu deimlad tynn yn eich brest. Gall asthma amrywio o fod yn fwyn i fod yn ddifrifol.

Sut y bydd beichiogrwydd yn effeithio ar asthma

Nid yw beichiogrwydd yn debygol o achosi asthma os nad ydych wedi ei dioddef o flaen, ond mae ei effaith ar fenywod sydd ag asthma eisoes yn anrhagweladwy. Bydd tua un mewn tair o ferched gydag asthma yn gweld gwelliant; na fydd un mewn tair yn gweld unrhyw welliant a bydd un mewn tair yn gweld ei symptomau yn gwaethygu.

Dangosir adolygiad o astudiaethau asthma os bydd symptomau asthma yn gwaethygu, mae hi'n fwyaf tebygol o ddigwydd yn yr ail neu drydydd tymor (ar ôl  tua13 wythnos), gyda rhanfwyaf yn digwydd yn ystod y chweched mis. Daeth astudiaeth arall i'r canlyniad bod y symptomau ar eu gwaethaf rhwng wythnosau 24 a 36 - wedi hyn fe wnaeth y symptomau leihau a thua 90% o fenywod heb symptomau yn ystod yr esgor a genedigaeth.

Y ffordd orau i sicrhau beichiogrwydd iach yw cadw eich asthma o dan reolaeth. Os bydd eich asthma o dan reolaeth, ni fydd ond ychydig, neu ddim risg, o ganlyniadau anffafriol i chi na'ch baban.

Cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog, dylech weld eich meddyg teulu am gyngor ar sut i reoli eich asthma.

Triniaethau asthma a beichiogrwydd

Dylech barhau â'ch triniaethau asthma rhagnodedig drwy gydol eich beichiogrwydd. Oni bai bod eich asthma yn gwaethygu, gall eich triniaeth aros yn union yr un fath ag o'r blaen. Os rhowch chi'r gorau i'r driniaeth a'ch bod chi'n colli rheolaeth ar eich asthma, bydd yn peri risg i'ch iechyd eich hun a bydd hefyd yn cynyddu'r  risg  y bydd eich baban a phwysau geni isel.

Drwy gydol eich beichiogrwydd gallwch ddisgwyl cymorth gan eich bydwraig, ond bydd eich meddyg arferol, nyrs arbenigol neu glinig yn parhau i reoli eich gofal asthma. Os yw eich asthma yn gwaethygu byddwch yn cael eich cyfeirio am y cymorth priodol.

Gallwch barhau i gymryd unrhyw driniaeth asthma tra byddwch yn bwydo ar y fron, hefyd. Hyd yn oed pan fyddwch yn brysur gyda'ch babi newydd, mae'n bwysig peidio ag esgeuluso eich iechyd eich hun ac i gadw eich asthma o dan reolaeth.

Arwyddion i wylio amdanynt

Arwyddion sy'n dangos bod eich asthma yn gwaethygu:

  • peswch sy'n waeth yn ystod y nos neu yn gynnar yn y bore, neu pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff
  • gwichian
  • diffyg anadlu
  • tyndra yn y frest

Rydych yn fwy tebygol o ddioddef o adlifiad asid tra byddwch yn feichiog. Mae'r cyflwr yma yn digwydd pan fydd asid y stumog yn dod yn ôl i fyny i'ch oesoffagws (corn gwddf), ac mae'n tueddu i wneud asthma yn waeth.

Os yw'r symptomau hyn arnoch siaradwch â'ch meddyg neu arbenigwr asthma, a fydd yn eich cynghori am y driniaeth orau.

Rheoli eich asthma yn ystod beichiogrwydd

Os oes asthma arnoch, dylai fod gennych gynllun hunan-reolaeth, sy'n golygu y gallwch addasu eich triniaeth i ddiwallu eich anghenion. Er enghraifft, os oes gennych beswch neu annwyd, gall eich asthma gwaethygu, ac os felly gallwch gynyddu defnydd o'ch 'atalydd' (steroidau a anedlir), neu ddechrau arnyn nhw os nad ydych yn eu cymryd yn rheolaidd. Mae hyn yn gwbl ddiogel yn ystod beichiogrwydd.

Er y gallwch barhau i wneud ymarfer corff a gweithio fel arfer, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i geisio atal eich asthma rhag gwaethygu yn ystod eich beichiogrwydd:

  • osgoi ysmygu (gwelwch awgrymiadau am roi'r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd)
  • osgoi sbardunau alergaidd fel blew anifeiliaid anwes
  • rheoli clefyd y gwair gyda gwrth-histaminau - siaradwch â'ch meddyg neu fferyllydd am ba gwrth-histaminau sy'n ddiogel i'w cymryd yn ystod beichiogrwydd
  • osgoi sbardunau clefyd y gwair fel torri'r lawnt

Dysgwch mwy am gael diet iach, ymarfer corff ac alcohol, meddyginiaethau a chyffuriau tra'n feichiog.

Nam cynhenid y galon

Mae tua 0.8% o fabanod yn cael eu geni gyda rhywbeth o'i le ar eu calon, a elwir hefyd yn glefyd cynhenid y galon neu nam cynhenid y galon. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, byddai 80% o'r babanod hyn wedi marw yn ystod plentyndod. Heddiw, mae tua 85% o'r babanod hyn yn goroesi i fod yn oedolion, a dyna pam mae merched beichiog sydd â phroblem ar y galon wedi dod yn fwy cyffredin.

Mae beichiogrwydd yn rhoi straen ychwanegol ar eich calon, felly os oes arnoch glefyd cynhenid y galon, gofynnwch i'ch meddyg teulu os oes angen eich cyfeirio at gardiolegydd sydd â phrofiad o drin menywod beichiog gyda'r cyflwr yma. Gwnewch hyn cyn i chi feichiogi neu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog.

Hyd yn hyn os ydych wedi cael llawdriniaeth lwyddiannus i gywiro'r nam, nid yw hyn yn golygu eich bod wedi gwella'n gyfan gwbl. Mae'n debyg y byddwch â rhywfaint o greithio ar y galon, a all eich gwneud yn fwy tueddol o gael heintiau neu guriad calon afreolaidd. Mae'r beichiogrwydd yn rhoi eich calon o dan straen sylweddol, a gall hyn arwain at broblemau.

Gweld cardiolegydd (arbenigwr y galon)

Nid yw rhai merched a gafodd eu trin am glefyd cynhenid y galon tra'n feichiog neu'n blant yn sylweddoli bod gwiriadau rheolaidd yn bwysig, ac efallai nad ydynt wedi gweld cardiolegydd am archwiliad am flynyddoedd lawer. Mae beichiogrwydd yn rhoi straen ychwanegol ar eich calon, felly os oes arnoch glefyd cynhenid y galon, gofynnwch i gael eich cyfeirio at gardiolegydd sydd â phrofiad o drin menywod beichiog gyda'r cyflwr yma. Gwnewch hyn cyn i chi feichiogi neu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog.

Byddwch yn cael eich cyfeirio at dîm mewn uned mamolaeth mewn ysbyty am eich gofal, ac efallai y byddwch yn gallu mynychu clinig beichiogrwydd cardiaidd arbennig os oes un yn eich ardal. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am fanylion, neu cysylltwch â'r  Somerville Foundation elusen am oedolion oedd a chlefyd cynhenid y galon.

Bydd cardiolegydd clefyd y galon yn eich asesu a chynllunio eich gofal. Mae'n anodd rhagweld effaith y caiff glefyd cynhenid y galon ar feichiogrwydd gan fod pob unigolyn yn wahanol, ond mae'r risg o gymhlethdodau difrifol i fenyw, sydd â chlefyd cynhenid y galon, yn disgyn yn nhair ystod:

  • Risg isel -  Ystyrir risg o lai nag un ymhob 100 yn risg isel (dyma'r lefel mwyaf cyffredin o risg)
  • Risg canolig - risg o un mewn 100 i un mewn 10
  • Risg uchel - risg o fwy nag un ymhob 10

Yr unig ffordd i amcangyfrif eich risg, ac i farnu pa gymhlethdodau - os rhai o gwbl, y cewch chi yn ystod eich beichiogrwydd yw cael asesiad gofalus gan arbenigwr. Mae'n bwysig gwybod pa broblemau gall godi. Yn dibynnu ar ba fath o glefyd cynhenid y galon sydd arnoch mae'n bosib y byddwch yn dioddef â hylif ar yr ysgyfaint, methiant y galon neu arrhythmia (curiad calon afreolaidd a/neu gyflym).

Eich babi

Gall eich clefyd cynhenid y galon effeithio ar eich babi hefyd. Gall babanod fod yn llai os nad yw calon y fam yn pwmpio mor effeithlon ad y dylai, ac yn darparu llai o ocsigen a maetholion i'r brych ac i'r babi sy'n datblygu. Gall babanod gael eu geni cyn pryd. Byddwch yn cael eich cynnig sganiau rheolaidd o 26-28 wythnos o feichiogrwydd er mwyn sicrhau bod eich baban yn tyfu fel y disgwylir a'i fod ef/ei bod hi'n dal yn iach.

Yn dibynnu ar ba fath o glefyd cynhenid y galon sydd arnoch, mae siawns y gallai eich babi etifeddu'r cyflwr. Er enghraifft, mae syndrom Marfan yn effeithio ar hanner yr holl blant a enir i fam sydd yn dioddef o'r cyflwr. Mae gan Sefydliad Prydeinig y Galon wybodaeth i rieni ar sut i ymdopi a chlefyd cynhenid y galon plentyn.

Mae angen i chi wybod cymaint ag y gallwch am eich cyflwr fel y gall eich babi, wrth iddo gael ei eni, dderbyn unrhyw ofal arbennig sydd ei angen arno. Gellir dod o hyd i lawer, ond nid pob nam â'r plentyn cyn ei eni yn ystod y beichiogrwydd. Bydd rheolaeth dyfodol y beichiogrwydd a'r babi yn cael ei drafod gyda chi, a bydd paediatregydd cardiaidd arbenigol yn eich cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael ar ôl i'r babi gael ei eni.

Triniaeth a hunan-ofal

Bydd y driniaeth a gewch yn dibynnu'n llwyr ar y cyflwr sydd arnoch, a bydd eich cardiolegydd yn darparu cynllun gofal cyn-geni wedi'i deilwra i chi. Gall hyn olygu bod rhaid i chi newid y cyffuriau yr ydych yn eu cymryd. Er enghraifft, nid yw atalyddion ACE yn cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd.

Yn ystod eich beichiogrwydd, dilynwch unrhyw gyngor bydd eich arbenigwr yn rhoi i chi am reoli eich cyflwr. Mae ymarfer corff mwyn, fel nofio a cherdded, fel arfer yn syniad da i gadw'n heini, ond siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg bob amser cyn dechrau ar unrhyw drefn ymarfer corff newydd.

Esgor a genedigaeth

Oherwydd y risg o gymhlethdodau, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn argymell bod menywod sydd â chlefyd y galon yn rhoi genedigaeth yn yr ysbyty, o dan ofal tim mamolaeth.

Yn dibynnol ar y math a difrifoldeb o glefyd y galon nid yw argymell yr enedigaeth yn cael ei awgrymu oherwydd bod y cyffur prostaglandin sy'n dechrau esgor yn gallu gor-ysgogi eich croth ac nid yw hi'n bosib rhoi'r cyffuriau a ddefnyddir i atal hyn i famau sydd â chlefyd cynhenid y galon. Mae'n well aros am esgor sy'n dechrau'n naturiol oni bai bod y babi yn cael ei eni'n gynnar oherwydd bod y fam yn sâl iawn neu nad yw'r babi yn tyfu'n iawn.

Does dim angen i famau sydd â chlefyd cynhenid y galon i gael toriad cesaraidd yn awtomatig. Ond mae'n cael ei argymell eich bod yn cael esgor di-boen, sy'n golygu y dylech gael epidwral, ac efallai y bydd eich meddyg yn defnyddio gefeiliau neu gwpan sugno (ventouse) i'ch helpu chi yn ystod yr enedigaeth oherwydd bod hyn yn osgoi'r straen o orfod gwthio'r babi allan.

 

Mae clefyd coronaidd y galon (CHD) yn digwydd pan fydd y rhydweliau coronaidd, sydd yn cyflenwi'r galon â gwaed ac ocsigen, yn culhau. Mae hyn yn cyfyngu ar rediad y gwaed a gall arwain at boen yn y fron wrth wneud pethau (fe elwir hyn yn 'angina') neu drawiad ar y galon wrth i geulyn gwaed gau un o'r rhydweliau coronaidd yn llwyr.

Y prif risg i fenywod gyda CHD wrth feichiogi yw cael trawiad ar y galon yn ystod y beichiogrwydd. Clefyd y galon yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymysg menywod yn ystod beichiogrwydd. Y ffordd orau i sicrhau beichiogrwydd iach yw ymweld â'ch meddyg teulu neu gardiolegydd (arbenigwr y galon) cyn i chi ddechrau ceisio beichiogi.

Amcangyfrif bod angina ar 2 filiwn o bobl yn y DU. Mae clefyd coronaidd y galon yn ystod beichiogrwydd yn brin gan ei fod yn fwy cyffredin mewn menywod hyn, sydd dros eu 50 oed. Ond mae ar gynnydd gan fod mwy o fenywod hyn yn beichiogi, a bod mwy dros eu pwysau a/neu'n ysmygu. Mae ysmygu a bod dros eich pwysau yn cynyddu'ch risg o ddioddef clefyd coronaidd y galon. Dysgwch mwy am glefyd coronaidd y galon.

Beth yw'r risgiau?

Y menywod sydd â'r perygl mwyaf o CHD yw'r rhai sydd:

  • yn ysmygu
  • dros eu pwysau
  • â ganddynt hanes teuluol o CHD cynnar  (pe tai'ch tad neu frawd wedi cael diagnosis o CHD cyn 55 oed, neu'ch mam neu chwaer wedi cael diagnosis cyn 65 oed)
  • arnynt ddiabetes
  • arnynt bwysedd gwaed uchel
  • yn hŷn (yr hynach yr ydych chi, mwyaf i gyd y byddwch yn datblygu clefyd y galon)

Gelwir y rhai yn ffactorau risg clefyd y galon. Mwyaf i gyd o ffactorau risg sydd arnoch chi fwyaf i gyd yw'r tebygolrwydd y datblygwch chi glefyd y galon.

Y prif risg i fenywod gyda CHD sy'n dod yn feichiog yw y byddant yn cael trawiad ar y galon yn ystod beichiogrwydd. Clefyd y galon yw'r prif achos am farwolaethau menywod yn ystod beichiogrwydd.

Mae'r risgiau i'ch babi yn anhysbys, er y gall rhai cyffuriau rydych yn cymryd am eich cyflwr neu gyflyrau cysylltiedig megis diabetes a phwysedd gwaed uchel yn effeithio ar eich babi.

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Y ffordd orau i sicrhau beichiogrwydd iach yw ymweld â'ch meddyg teulu neu gardiolegydd (arbenigwr y galon) cyn i chi ddechrau ceisio beichiogi.

Gall eich meddyg teulu neu gardiolegydd rhoi cyngor i chi am ba gyffuriau sy'n ddiogel i'w cymryd yn ystod beichiogrwydd ac o bosib medrant addasu eich triniaeth i leihau unrhyw risgiau i chi a'ch babi. Os nad yw'n bosibl rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau penodol, gall eich meddyg drafod y risgiau sy'n gysylltiedig â'r driniaeth hon yn ystod eich beichiogrwydd.

Os ydych yn cymryd aspirin ar gyfer eich cyflwr mae'n ddiogel i barhau i gymryd hyn yn ystod beichiogrwydd. Ni ddylech fyth roi'r gorau i unrhyw gyffuriau heb ymgynghori â'ch meddyg neu gardiolegydd yn gyntaf.

Os ydy stent wedi ei osod er mwyn atal eich rhydweliau rhag culhau neu gael eu blocio, bydd angen i chi drafod gyda'ch cardiolegydd y risg i chi wrth feichiogi yn ogystal â'r ffordd orau i reoli eich stent yn ystod beichiogrwydd i sicrhau nad yw'n blocio.

Gallwch baratoi eich corff am feichiogrwydd trwy wneud y pethau canlynol:

Yn ystod eich beichiogrwydd, dylech fod o dan ofal obstetrydd ymgynghorol a chardiolegydd mewn uned famolaeth yn yr ysbyty. Gallwch ddisgwyl gael gwiriadau cyn-geni amlach, yn enwedig os yw eich clefyd coronaidd y galon yn gysylltiedig â chyflyrau eraill megis diabetes a phwysedd gwaed uchel. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw eich holl apwyntiadau, neu eu haildrefnu nhw os bydd rhaid i chi eu canslo.

Tra byddwch yn feichiog, dylech:

Yr esgor a'r geni

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi genedigaeth mewn uned famolaeth yn yr ysbyty, ond ni ddylai fod unrhyw reswm pam na allwch gael genedigaeth arferol trwy'r wain.

Dysgwch mwy am arwyddion esgor a lleddfu poen.

Diabetes a beichiogrwydd

Os yw diabetes math 1 neu fath 2 arnoch chi eisoes, gallwch fod â risg uwch o gael baban mawr (a fydd yn cynyddu'r risg o enedigaeth anodd), o angen ysgogi'ch esgor, o gael toriad cesaraidd, o eni baban a nam arno, ac o gamesgor neu farw-enedigaeth.

Y ffordd orau o osgoi'r risg i'ch iechyd chi ac iechyd eich baban yw sicrhau bod eich diabetes o dan reolaeth dda cyn i chi feichiogi. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu'ch diabetolegydd ( arbenigwr ar ddiabetes) am gyngor. Mae hi'n bosib y cewch chi eich cyfeirio at glinig cyn-feichiogi diabetig.

Mae diabetes yn gyflwr lle mae lefel siwgr (glwcos) yn y gwaed yn rhy uchel. Daw glwcos o'r broses o dreulio bwydydd startsh, fel bara a reis. Inswlin yw'r hormon, a gynhyrchir gan eich pancreas, sydd yn helpu eich corff i droi glwcos yn ynni.

Gall tri math o ddiabetes effeithio arnoch tra byddwch yn feichiog. Cyflyrau tymor hir yw diabetes math 1 a math 2 a fydd fel arfer ar fenyw cyn iddi feichiogi (diabetes sydd yn bod eisoes).  Mae diabetes cyfnod cario ddim ond yn datblygu yn ystod beichiogrwydd a bydd yn diflannu wrth i'r baban gael ei eni.

Diabetes math 1

Mae diabetes math 1 yn datblygu pan na all eich corff gynhyrchu unrhyw inswlin. Mae hi'n dechrau fel arfer yn ystod plentyndod, a bydd y rhan fwyaf o fenywod sydd â diabetes math 1 yn ymwybodol o'r cyflwr cyn iddynt feichiogi. Mae rhaid i bobl sydd â diabetes math 1 arnynt gymryd  inswlin i reoli lefelau glwcos yn eu gwaed.

Diabetes math 2

Mae diabetes math 2 yn datblygu pan na all eich corff cynhyrchu digon o inswlin, neu pan nad yw'r inswlin sy'n cael ei gynhyrchu yn gweithio'n iawn. Mae'n digwydd yn aml mewn pobl sydd dros eu pwysau, ac yn cael ei ddarganfod fel arfer mewn merched 40 oed neu hyn. Ond gall ddigwydd y iau, yn enwedig mewn pobl Asiaidd a phobl ddu.

Efallai byddech yn gwybod bod arnoch ddiabetes fath 2 cyn i chi feichiogi, neu efallai y byddwch yn cael diagnosis yn ystod eich beichiogrwydd. Gall diabetes math 2 cael ei drin gyda thabledi i ostwng y glwcos sydd yn y gwaed, ond bydd angen phigiadau inswlin ar rai menywod beichiog.

Diabetes cyfnod cario

Nid yw diabetes cyfnod cario yn digwydd ond yn ystod beichiogrwydd. Gall ddigwydd mewn unrhyw gyfnod o'r beichiogrwydd, ond mae'n fwy cyffredin yn ystod yr ail hanner. Mae'n digwydd pan na all eich corff cynhyrchu digon o inswlin ychwanegol i gwrdd â gofynion y beichiogrwydd. Bydd diabetes cyfnod cario yn mynd ar ôl i chi roi genedigaeth.

Mae hi'n bwysig eich bod yn deall eich bod chi'n ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2 yn ddiweddarach mewn bywyd os oes arnoch ddiabetes cyfnod cario pan fyddwch yn feichiog.

Gall ddioddef diabetes, tra rydych yn feichiog, eich rhoi chi a'ch babi mewn perygl o gymhlethdodau (gweler isod). Gallwch leihau'r risg hwn, ond mae'n dibynnu'n rhannol ar ba fath o ddiabetes sydd arnoch..

Os oes diabetes arnoch chi eisoes

Os ydy diabetes math 1 neu fath 2 arnoch eisoes, gallwch fod â mwy o risg o:

Gall pobl â diabetes math 1 cael problemau newydd gyda'u llygaid (a elwir yn retinopathi diabetig) a'u harennau (neffropathi diabetig), neu gall eu problemau presennol waethygu .

Gall eich babi fod mewn perygl o:

  • beidio â datblygu'n normal a chael namau cynhenid, yn enwedig namau'r galon a'r system nerfol
  • gael ei eni'n farw neu'n marw yn fuan ar ôl yr enedigaeth
  • gael problemau iechyd yn fuan ar ôl y geni (megis problemau calon ac anadlu) a bod ag angen gofal ysbyty
  • ddatblygu gordewdra neu ddiabetes yn ddiweddarach mewn bywyd

Lleihau'r risgiau os oes arnoch ddiabetes yn barod

Y ffordd orau o leihau'r risg i chi'ch hun ac i iechyd eich babi yw sicrhau bod eich diabetes yn cael ei reoli'n dda cyn i chi feichiogi. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu diabetolegydd (arbenigwr diabetes) am gyngor. Dylech chi gael eich cyfeirio at glinig diabetig cyn-beichiogi am gymorth cyn i chi geisio beichiogi. Dewch o hyd i wasanaethau cymorth yn eich ardal chi.

Dylai prawf gwaed a elwir yn brawf HbA1c cael ei gynnig i chi, mae'n helpu i asesu lefel y glwcos yn eich gwaed. Mae'n well os bydd y lefel yn 6.1% cyn i chi feichiogi. Os yw eich HbA1c yn uwch na hyn, byddai hi'n o les i chi gael rheolaeth well ar y glwcos yn eich gwaed cyn i chi feichiogi er mwyn lleihau'r risg o gymhlethdodau i chi ac i'ch babi. Gall eich meddyg teulu neu arbenigwr diabetes trafod y ffordd orau o wneud hyn gyda chi.

Asid ffolig

Dylai merched sydd â diabetes arnynt gymryd dos uwch o asid ffolig. Mae'r dos dyddiol arferol ar gyfer merched sy'n ceisio beichiogi ac am ferched beichiog yw 400 micro gram. Dylai menywod diabetig gymryd 5mg y dydd. Gall eich meddyg ragnodi'r asid ffolig dos uchel yma i chi. Mae cymryd asid ffolig yn helpu atal eich babi rhag datblygu namau geni megis spina bifida. Dylech gymryd asid ffolig nes y 12fed wythnos o feichiogrwydd.

Eich triniaeth

Mae hi'n debyg fe fydd angen cymhwyso'ch cyfundrefn driniaeth diabetig yn ystod beichiogrwydd yn dibynnu ar eich anghenion. Os ydych yn cymryd cyffuriau am gyflyrau sy'n gysylltiedig â'ch diabetes, fel pwysedd gwaed uchel, gall fod angen i'r rhain gael eu newid.

Mae'n bwysig iawn cadw unrhyw apwyntiadau a wneir i chi, fel y gall eich tim gofal fonitro eich cyflwr ac ymateb i unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich lles chi neu les eich babi.

Byddwch yn barod i fonitro lefelau glwcos yn eich gwaed yn fwy aml yn ystod beichiogrwydd.  Bydd eich llygaid ac arennau yn cael eu sgrinio yn fwy aml i sicrhau nad yw eu cyflwr yn dirywio yn ystod beichiogrwydd, gan y gall problemau llygaid ac arennau gwaethygu. Efallai y byddwch hefyd yn canfod, wrth i chi gael rheolaeth well dros eich diabetes, rydych yn cael mwy o ymosodiadau hypogleicemig (siwgr gwaed isel). Nid yw'r rhain yn achosi niwed i'ch babi, ond mae angen i chi a'ch partner gwybod sut i ymdopi â nhw. Dysgwch mwy am drin pwl hypoglycemig, a siarad â'ch meddyg neu arbenigwr diabetes.

Diabetes cyfnod cario (diabetes beichiogrwydd)

Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes cyfnod cario os:

  • ydych dros eich pwysau, gyda BMI dros 30 (defnyddiwch y cyfrifiannell BMI pwysau iach, ond sylwch nad yw'r gyfrifiannell yn addas i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd)
  • ydych wedi rhoi genedigaeth i fabi mawr, sy'n pwyso mwy na 4.5kg (9.9lbs), yn y gorffennol
  • ydych wedi cael diabetes cyfnod cario o'r blaen
  • oes gennych riant, brawd, chwaer, nain neu daid gyda diabetes
  • yw eich teulu o darddiad De Asiaidd, Du Caribïaidd neu o'r Dwyrain Canol

Os ydych mewn unrhyw un o'r categoriau uwch-risg yma, dylech gael cynnig prawf i wirio am ddiabetes cyfnod cario. Efallai y byddwch yn cael pecyn profi cartref i wirio lefelau glwcos eich gwaed, neu efallai y byddwch yn cael cynnig prawf goddefiad glwcos geneuol (OGTT neu GTT) pan fyddwch yn 28 wythnos.

Mae prawf GTT yn brawf gwaed sy'n cael ei wneud ar ôl cyfnod o beidio â bwyta. Byddwch yn cael gwybod am ba mor hir i beidio â bwyta cyn gwneud y prawf (yn aml mae hyn dros nos). Yna byddwch yn cael eich gofyn i yfed diod glwcos a chymryd prawf gwaed arall ddwy awr yn ddiweddarach.

Os ydych yn dioddef o ddiabetes cyfnod cario, rydych mewn perygl o:

  • gael babi mawr, sy'n cynyddu'r risg o enedigaeth anodd, neu o angen ysgogi eich esgor neu doriad cesaraidd.

Efallai y bydd eich babi mewn perygl o:

  • farw-enedigaeth
  • broblemau iechyd yn fuan ar ôl y geni (megis problemau calon ac anadlu) a bod angen gofal ysbyty
  • ddatblygu gordewdra neu ddiabetes yn ddiweddarach mewn bywyd

Rheoli diabetes cyfnod cario

Gall diabetes cyfnod cario gael ei reoli gan ddilyn diet yn aml. Bydd dietegydd yn eich cynghori sut i ddewis bwydydd a fydd yn cadw'r lefelau siwgr yn eich gwaed yn sefydlog. Byddwch hefyd yn cael pecyn i brofi lefelau glwcos yn eich gwaed. Os bydd y lefelau siwgr yn eich gwaed yn ansefydlog, neu os bydd eich babi yn ymddangos yn fawr ar sgan uwchsain, efallai y bydd rhaid i chi gymryd tabledi neu roi pigiadau inswlin i chi'ch hun.

Pa bynnag fath o ddiabetes sydd arnoch, bydd gennych fwy o apwyntiadau cynenedigol, a fydd weithiau yn cymryd llawer o amser, er mwyn sicrhau eich cynnydd chi a chynnydd eich babi. Byddwch yn cael cynnig cyngor ar ddiet a thriniaethau i reoli lefelau glwcos eich gwaed.

Yr esgor a'r geni

Os oes arnoch ddiabetes, mae'n cael ei hargymell yn gryf eich bod yn rhoi genedigaeth gyda chymorth tim mamolaeth a arweinir gan ymgynghorydd mewn ysbyty. Dysgwch mwy am ble gallwch roi genedigaeth gan gynnwys yn yr ysbyty.

Mae babanod a enir i famau diabetig yn aml yn fwy nag arfer. Mae hyn oherwydd bod glwcos yn y gwaed yn mynd yn uniongyrchol oddi wrthych i'ch babi, felly os oes gennych lefelau glwcos uchel yn y gwaed bydd eich babi yn cynhyrchu inswlin ychwanegol i'w ddigolledu. Gall hyn arwain at eich babi yn storio mwy o fraster a meinwe. Gall hyn yn ei dro arwain at anawsterau geni, sy'n gofyn am arbenigedd o dîm yr ysbyty.

Ar ôl y geni

Dwy i bedair awr ar ôl i'ch babi gael ei eni, bydd yn cael prawf gwaed pigo sawdl i wirio a yw lefel glwcos ei gwaed/ei waed yn rhy isel. Byddwch eich babi cyn gynted â phosibl ar ôl yr enedigaeth (o fewn 30 munud) i helpu cadw'r glwcos yng ngwaed eich babi ar lefel ddiogel.

Os nad yw hi'n bosib cadw'r glwcos yng ngwaed eich babi ar lefel ddiogel, efallai y bydd angen gofal ychwanegol arno. Efallai y bydd angen offer diferu ar eich babi er mwyn cynyddu'r glwcos sydd yn ei waed/gwaed.

Wrth i'ch beichiogrwydd ddod i ben, ni fydd angen gymaint o inswlin i reoli'r glwcos yn eich gwaed. Gallwch ostwng eich dos inswlin i'r hyn yr oedd cyn i chi feichiogi neu, os oes arnoch ddiabetes math 2, gallwch ddychwelyd ar y tabledi yr oeddech yn eu cymryd cyn i chi feichiogi. Siaradwch â'ch meddyg am hyn.

Os oedd arnoch ddiabetes cyfnod cario, gallwch roi'r gorau i bob triniaeth ar ôl yr enedigaeth. Dylai prawf i wirio eich lefelau glwcos gwaed gael ei gynnig i chi cyn i chi fynd adref, ac yn eich apwyntiad chwe wythnos ar ôl y geni. Dylech hefyd gael cyngor ar ddiet ac ymarfer corff.

 

Epilepsi yn ystod beichiogrwydd

Mae'n anodd rhagweld sut y bydd beichiogrwydd yn effeithio ar epilepsi. I rai menywod, nid yw eu hepilepsi yn cael ei effeithio, tra bydd eraill yn gweld gwelliant yn eu trawiadau. Ond gan y gall beichiogrwydd achosi straen corfforol ac emosiynol, gall trawiadau dod yn amlach a mwy difrifol.

Os ydych yn cymryd cyffuriau i reoli eich epilepsi, argymhellir eich bod yn cymryd dos dyddiol uchel (5mg) o asid ffolig cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ceisio beichiogi. Gall eich meddyg teulu ragnodi hyn. Mae hi'n bosib y bydd asid ffolig yn amddiffyn eich babi rhag effeithiau eich cyffuriau gwrth-epileptig. Os byddwch yn beichiogi yn annisgwyl ac nid ydych wedi bod yn cymryd asid ffolig, dechreuwch ei gymryd ar unwaith. Peidiwch â newid eich triniaeth gyffuriau neu roi'r gorau i gymryd triniaeth heb gyngor meddygol arbenigol, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd. Gallai trawiad difrifol yn ystod beichiogrwydd arwain at farwolaeth y fam a'r babi.

Mae epilepsi yn gyffredin, gan effeithio ar tua 600,000 o bobl yn y DU. Mae fel arfer yn dechrau yn ystod plentyndod, ond gall ddechrau ar unrhyw oedran. Prif symptomau epilepsi yw ffitiau mynych.

Mae trawiad yn digwydd pan fydd patrymau annormal o weithgarwch trydanol yn codi yn yr ymennydd. Gall achosi i'r corff symud mewn ffordd afreolus, a hefyd achosi i ddyn golli ymwybyddiaeth am gyfnod byr.

Triniaeth cyffuriau

Mae llawer o ferched ag epilepsi yn defnyddio cyffuriau gwrth-epileptic (CGE) i gadw eu trawiadau o dan reolaeth.  Mae'r cyffuriau hyn yn gallu cynyddu'r risg o namau corfforol ar y babi sy'n datblygu. Gallant achosi ystod o gyflyrau, megis spina bifida, abnormaleddau cardiaidd (calon) a gwefus hollt.

Er mwyn lleihau'r risg i ddatblygiad eich babi, mae'n bosib weithiau i newid i gyffuriau mwy diogel, torrwch y dogn cyfan neu newid y ffordd mae'r cyffuriau yn cael eu rhoi. Er enghraifft, gall cyffuriau cael ei roi mewn ffurf gollyngiad-araf.  Ni ddylai hyn yn cael ei wneud ond gan weithiwr proffesiynol sydd â gwybodaeth arbennigol mewn trin epilepsi.

Fel arfer mae'n well gwneud unrhyw newidiadau i'r driniaeth â'r cyffuriau cyn, yn hytrach nag yn ystod, beichiogrwydd. Cyn i chi feichiogi trafodwch eich triniaeth gydag obstetrydd neu niwrolegydd (arbenigwr ar yr ymennydd) sy'n gwybod am epilepsi.

Peidiwch â newid triniaeth gyffuriau neu roi'r gorau i gymryd triniaeth heb gyngor arbenigol yn enwedig yn ystod beichiogrwydd. Gallai trawiad difrifol yn ystod beichiogrwydd arwain at farwolaeth y fam a'r babi.

Os ydych yn cymryd cyffuriau i reoli eich epilepsi, argymhellir eich bod yn cymryd dos dyddiol uchel (5mg) o asid ffolig cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ceisio beichiogi. Gall eich meddyg teulu ragnodi hyn. Gall asid ffolig amddiffyn eich babi rhag effeithiau eich cyffuriau gwrth-epileptig. Os byddwch yn beichiogi yn annisgwyl ac nid ydych wedi bod yn cymryd asid ffolig, dechreuwch ei gymryd ar unwaith.

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Cyn i chi feichiogi, neu mor gynnar yn ystod eich beichiogrwydd ag y bo modd, byddwch yn cael eich cyfeirio at obstetrydd a fydd yn trafod a chynllunio eich gofal yn ystod beichiogrwydd. Os oes angen, bydd niwrolegydd yn helpu rhoi'r cynllun hwn at ei gilydd.

Cewch eich sgan uwchsain i helpu canfod unrhyw broblemau yn natblygiad eich babi, ac efallai y bydd angen profion gwaed ychwanegol i wylio lefelau'r cyffuriau gwrth-epilepsi sydd yn eich gwaed. Os oes hanes cryf o epilepsi yn eich teulu neu deulu eich partner, bydd eich tim gofal yn siarad â chi am y posibilrwydd y bydd eich babi yn etifeddu'r cyflwr.

Esgor, yr enedigaeth a thu hwnt

Er bod y risg o gael trawiad yn ystod y cyfnod esgor yn un isel, argymhellir eich bod yn rhoi genedigaeth mewn uned tim famolaeth mewn ysbyty. Gallwch gael mwy o wybodaeth am enedigaeth mewn ysbyty yn y dudalen opsiynau geni. Nid yw genedigaeth mewn dŵr yn cael ei argymell. Yn ystod y cyfnod esgor byddwch yn derbyn gofal gan fydwraig, a bydd meddygon ar gael os oes angen eu help. Dysgwch am beth sy'n digwydd yn ystod esgor.

Oherwydd bod rhai cyffuriau gwrth-epileptig yn lleihau gallu gwaed eich babi i geulo, mae'n bosib y cewch fitamin K i'w gymryd yn ystod wythnosau olaf eich beichiogrwydd. Bydd eich babi yn cael pigiad fitamin K cyn eich bod yn mynd adref.

Fel arfer, does dim rheswm pam na allwch chi fwydo eich babi. Hyd yn oed os yw rhai o'ch meddyginiaethau'n mynd mewn i'ch llaeth, mae manteision bwydo ar y fron yn aml yn fwy nag unrhyw risgiau. Gall eich bydwraig neu obstetrydd rhoi cyngor i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Cofrestr Epilepsi a Beichiogrwydd y DU

Mae'r prosiect cenedlaethol hwn yn ymchwilio i ba driniaethau epilepsi sy'n peri'r risg lleiaf i iechyd y babi. Pan fyddant yn cofrestru, mae menywod beichiog sydd yn dioddef o epilepsi yn rhoi gwybodaeth am y driniaeth y maent yn ei gymryd. Mae gwybodaeth am iechyd y babi yn cael ei gasglu ar ôl i'r plentyn gael ei eni. Mae hyn yn helpu meddygon i roi'r cyngor gorau i ferched sy'n ystyried beichiogi. Gall unrhyw fenyw feichiog sydd yn dioddef o epilepsi ymuno â'r Cofrestr Epilepsi a Beichiogrwydd y DU.

Pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd gwaed) a beichiogrwydd

Os oes arnoch bwysedd gwaed uchel, neu orbwysedd gwaed, bydd angen i'ch calon chi weithio'n galetach i bwmpio gwaed o amgylch eich corff. Gall hyn effeithio ar gyhyr y galon.

Tra bydd y math o driniaeth a roddir i chi yn dibynnu ar achos eich pwysedd gwaed uchel, y gyfrinach am feichiogrwydd iach yw sicrhau bod eich pwysedd gwaed yn parhau i fod o dan reolaeth. Y ffordd orau i fonitro eich cyflwr yw trwy gael gwiriadau gyda'ch tim cyn-enedigol.

Bydd eich pwysedd gwaed (sydd yn cael ei fesuro mewn milimedrau o fercwri neu'n fyr - mm Hg) yn cael ei nodi yn rheolaidd yn ystod eich beichiogrwydd. Caiff ei nodi fel pwysedd uwch (systolig) a phwysedd llai (diastolig) er enghraifft 120/70 mm Hg, neu 120 dros 70.

Mae gorbwysedd gwaed yn effeithio ar tua 10%-15% o achosion beichiogi. Mae gwahanol fathau o orbwysedd gwaed yn gallu codi ystod beichiogrwydd, gan gynnwys:

  • gorbwysedd cronig (roedd gorbwysedd gwaed yn bod cyn dod yn feichiog) 
  • pwysedd gwaed uchel sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd (gorbwysedd gwaed cyfnod cario) a chyn-eclampsia

Am bob un o'r mathau gwahanol hyn ceir tair ystod:

  • gorbwysedd is sydd yn cyfeirio at bwysedd gwaed rhwng 140/90 a 149/99 mm Hg - nid yw hi fel arfer triniaeth ond caiff ei nodi'n aml
  • gorbwysedd canolig sydd yn cyfeirio at bwysedd gwaed rhwng 150/100 a 159/109 mm Hg
  • gorbwysedd uchel sydd yn cyfeirio at bwysedd gwaed o 160/110 neu'n uwch

Os oes pwysedd gwaed uchel arnoch chi eisoes (gorbwysedd gwaed cronig)

Bydd llawer o fenywod sydd â gorbwysedd gwaed cronig arnynt yn cymryd cyffuriau i gadw eu pwysedd gwaed tu mewn i'r ystod sydd orau iddynt (yr ystod targed). Gan fod pwysedd gwaed yn disgyn yn ystod hanner cyntaf beichiogrwydd, weithiau mae hi'n bosib gorffen a chyffuriau gwrth-gorbwysedd o leiaf dros dro.

Nid yw rhai triniaethau â chyffuriau ar gyfer pwysedd gwaed uchel yn cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd. Os ydych yn cymryd tabledi, mae'n bwysig gweld eich meddyg i weld a oes angen i chi newid i gyffuriau eraill cyn i chi feichiogi. Os byddwch chi'n cymryd cyffuriau i reoli'ch pwysedd gwaed ac rydych yn beichiogi dwedwch wrth eich meddyg ar unwaith. Gall fod angen newid i feddyginiaeth amgen - bydd eich meddyg yn siarad â chi ynglyn â hyn.

Os ydych yn cymryd cyffuriau i ostwng eich pwysedd gwaed, gall hyn hefyd leihau llif y gwaed i'r brych ac i'r babi. Mae'n bwysig bod eich tim cyn-enedigol yn eich monitro yn agos i sicrhau bod eich babi yn tyfu fel arfer. Gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i bob apwyntiad cyn-geni gyda'r fydwraig neu'r meddyg.

Eich triniaeth

Tra bydd y math o driniaeth a roddir i chi yn dibynnu ar achos eich pwysedd gwaed uchel, y ffordd i gael beichiogrwydd iach yw sicrhau bod eich pwysedd gwaed yn parhau o dan reolaeth.  Y ffordd orau i fonitro eich cyflwr yw mynychu apwyntiadau gyda'ch tim cyn-enedigol. Fe ddylid cynnig apwyntiadau cyn geni ychwanegol yn seiliedig ar eich anghenion chi ac anghenion eich baban.

Dewisiadau ffordd o fyw

Fe ddylech chi gadw'n heini a gwneud pethau corfforol pob dydd, megis cerdded a nofio. Dysgwch ragor am feichiogrwydd ac ymarfer corff.
Bwytwch ddiet iach a chytbwys gan gadw eich defnydd o halen i lawr, gall hyn leihau pwysedd gwaed.

Mae hi'n bosib eich bod chi wedi clywed bod rhai ychwanegion, fel garlleg, yn atal pwysedd gwaed uchel. Y gwir yw nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod yr ychwanegion isod yn effeithiol, ac ni cheir eu hargymell fel modd o atal pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd:

  • magnesiwm
  • asid ffolig
  • gwrthocsidyddion (Fitamin C ac E)
  • Olewau pysgod ac algae
  • garlleg

Pwysedd gwaed uchel o ganlyniad i feichiogrwydd

Bydd gorbwysedd gwaed a achosir gan feichiogrwydd, neu orbwysedd gwaed cyfnod cario, yn effeithio ar 16% o ferched beichiog. Mae hyn yn golygu bod allan o 100 o ferched beichiog, bydd16 ohonynt yn datblygu pwysedd gwaed uchel yn ystod eu beichiogrwydd. Bydd hyn yn digwydd  yn hwyr yn y beichiogrwydd fel arfer (ar ôl 32 wythnos).

Cyn-eclampsia

Cyflwr cysylltiedig â beichiogrwydd yw cyn-eclampsia sydd fel arfer yn achosi pwysedd gwaed uchel a phrotein yn y troeth (proteinurea). Mae ef yn fwy cyffredin os bydd pwysed gwaed arnoch cyn beichiogi, neu os bu cyn-eclamsia arnoch chi yn ystod beichiogrwydd blaenorol.  Os yw hyn yn wir amdanoch chi, bydd mynychu apwyntiadau am brofion gwaed a throeth yn bwysicach byth.

Mae cyn-eclampsia hefyd yn effeithio ar y brych, felly bydd angen sganiau rheolaidd i sicrhau bod eich baban yn tyfu'n iawn ac yn parhau'n iach. Mae cyn-eclampsia yn effeithio ar 2-5% o fenywod beichiog. Os na chaiff ei drin, gall arwain at drawiadau (cael ffitiau) ac, ar adegau prin, marwolaeth y fam.

Dysgwch mwy am yr hyn sy'n digwydd yn ystod yr esgor.

Cyfnod esgor a Genedigaeth

Os byddwch yn defnyddio meddyginiaeth i reoli'ch pwysedd gwaed cadw ati yn ystod cyfnod esgor.

Os rydych chi â gorbwysedd gwaed is neu ganolig dylid mesuro eich pwysedd gwaed pob awr yn ystod esgor. Cyhyd a bydd eich pwysedd gwaed yn aros tu fewn i ffiniau penodedig fe fedrwch obeithio am enedigaeth naturiol o'r wain.

Os oes gorbwysedd gwaed uwch arnoch, fe gaiff eich pwysedd gwaed ei fesuro ar hyd y cyfnod esgor. Os bydd eich pwysedd gwaed yn uchel, mae'n bosib yr argymhellir genedigaeth lawfeddygol (gefeiliau neu gwpan sugno) neu (torriad cesaraidd).

Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei brofi ar ôl yr enedigaeth. Os oes gorbwysedd cronig arnoch fe ddylai'ch triniaeth yn cael ei hadolygu pythefnos wedi genedigaeth eich plentyn.

Os bu gorbwysedd gwaed cyfnod cario arnoch, ac rydych yn dal i gymryd meddyginiaeth pythefnos wedi'r enedigaeth, fe ddylid cynnig apwyntiad â meddyg i chi i weld os bydd angen newid neu atal y driniaeth.

Dylid pob menyw sydd wedi dioddef gorbwysedd gwaed tra roedd hi'n feichiog yn cael ei chynnig apwyntiad gyda meddyg yn ei gwiriad ol-enedigaethol, tua chwe wythnos ar ôl yr enedigaeth.

Bwydo ar y fron

Am y rhan fwyaf o gyffuriau gwrth-orbysedd gwaed nid oes ond ychydig o wybodaeth a ydynt yn cymysgu â llaeth y fron ai peidio, neu os cant hwy effaith ar faban sy'n bwydo ar y fron. Siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg am fwydo ar y fron os rydych chi'n defnyddio meddyginiaeth.

Mae Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn cynhyrchu arweiniad ar reoli gorbwysedd gwaed yn ystod beichiogrwydd.

 

Gall salwch meddwl gynyddu yn gyflym yn ystod beichiogrwydd. Os ydych yn rhoi'r gorau i feddyginiaeth ragnodedig heb ymgynghori â'ch meddyg tra byddwch yn feichiog, gall hyn peri i'ch salwch ddychwelyd neu waethygu.

Pan fyddwch yn cael eich apwyntiad cyn-enedigol cyntaf dylech gael eich gofyn a ydych chi wedi cael problemau gyda'ch iechyd meddwl erioed yn y gorffennol. Dylai hyn ddigwydd eto ar ôl rhoi genedigaeth eich babi. Mae hyn er mwyn caniatau i'ch tim gofal sylwi ar unrhyw arwyddion rhybudd yn gyflymach ac i gynllunio'r gofal priodol i chi.

Os ydych chi eisoes wedi dioddef o salwch meddwl yn y gorffennol rydych chi'n fwy tebygol o fod yn sâl eto yn ystod beichiogrwyd,  neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl yr enedigaeth, nag ar amseroedd eraill yn eich bywyd. Wedi rhoi genedigaeth gall salwch meddwl difrifol ddatblygu'n gyflymach ac yn waeth nag ar amseroedd eraill.

Mae cymorth ar gael, felly peidiwch â bod ag ofn siarad â'ch bydwraig neu feddyg am sut yr ydych chi'n teimlo - Gallan nhw drafod eich gofal gyda chi.

Oherwydd y gallwch deimlo'n fwy agored i niwed ac yn bryderus tra rydych yn feichiog, ac ar ôl yr enedigaeth, dylai eich meddyg teulu, bydwraig ac ymwelydd iechyd ofyn i chi am eich iechyd meddwl. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi siarad am unrhyw bryderon sydd arnoch ac i gael help os oes angen.

Weithiau bydd pobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn stopio defnyddio eu meddyginiaeth. Os wnewch chi hynny heb siarad â'ch meddyg neu fydwraig, wrth i chi feichiogi gall hyn wneud i'ch salwch ailgodi neu waethygu, felly mae hi'n bwysig siarad â nhw cyn gwneud.

Pa ofal gallech ei ddisgwyl?

Yn ystod eich apwyntiad cynenedigol cyntaf dylech chi gael gofyn a ydych chi wedi cael problemau gyda'ch iechyd meddwl erioed yn y gorffennol ac os ydych wedi teimlo'n isel neu ddiobaith yn ddiweddar. Dylai hyn ddigwydd eto yn dilyn genedigaeth eich babi. Gofynnir y cwestiynnau yma i bob menyw feichiog a phob mam newydd, nid ond i'r rhai sydd â (neu a fu â) phroblemau meddwl iechyd arnyn nhw.

Mae gofyn y cwestiynau yma, a gwrando ar yr atebion yn caniatau i'ch tim gofal sylwi ar unrhyw arwyddion o salwch meddwl gall fod arnoch. Mae hi hefyd yn rhoi cyfle i chi a'ch bydwraig, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd drafod unrhyw broblemau iechyd meddwl, triniaethau a dewisiadau gofal a beth allant feddwl i chi, eich beichiogrwydd a'ch baban.

Os byddwch chi, eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd yn  amau bod problem iechyd meddwl arnoch chi, fe ddylech chi gael asesiad â'ch meddyg teulu.

Os oes, neu os bu, salwch meddwl difrifol arnoch dylai cynllun gofal cael ei ddatblygu gan eich bydwraig neu feddyg gyda chi yn ystod y tri mis cyntaf o'ch beichiogrwydd, ac mae hi'n bosib y cewch chi eich cyfeirio at y tim iechyd meddwl amenedigol. Gall eich cynllun gofal gynwys gwybodaeth o'ch teulu a'ch gofalwyr hefyd os bydd hyn yn berthnasol. Dylai'r cynllun gael ei ysgrifennu a'i roi i chi, a chael ei nodi yn eich nodiadau meddygol.

Siaradwch â'ch meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd meddwl yn ystod, neu ar ôl, eich beichiogrwydd.

Apwyntiadau cyn geni

Weithiau - ond nid pob tro - gall problem iechyd meddwl yn peri i chi golli apwyntiadau. Os bydd hyn yn digwydd tra byddwch yn feichiog, gall feddwl eich bod chi'n colli archwiliadau iechyd pwysig. Gall hyn yn codi'r siawns i chi ddioddef cymhlethdodau beichiogrwydd a fyddai fel arall wedi'u ffeindio.

Triniaeth

Gall triniaeth am broblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwyd ac ar ôl yr enedigaeth yn cynnwys  triniaethau seicolegol a meddyginiaeth. Dysgwch ragor am drin problemau iechyd meddwl neilltuol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl y geni.

Gall ddefnyddio meddyginiaeth yn codi peryglon i'r baban yn y groth, ond os nad ydych chi'n ei ddefnyddio neu'ch bod chi'n stopio ei gymryd, fe allwch chi fynd yn ddifrifol sâl a gall hyn fod yn beryglus hefyd. Dylech chi a'ch meddyg yn trafod y peryglon o drin neu beidio â thrin eich cyflwr.

Dylai eich trafod gynnwys sut mor ddifrifol oedd unrhyw broblem iechyd meddwl o'r blaen, y siawns yr ewch chi'n sâl, os byddwch yn medru ymdopi heb driniaeth, a pha driniaethau bu o fudd i chi yn y gorffennol. Gallwch siarad am effaith y triniaethau ar fwydo ar y fron hefyd.

Dysgwch ragor am broblemau iechyd meddwl a meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd.

Iselder baban newydd

Mae cyfnod iselder baban newydd yn adeg pan allwch deimlo'n isel ac yn ddagreuol, ac mae, fel arfer, yn digwydd yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl yr enedigaeth. Mae'n ganlyniad i'r newidiadau hormonaidd arferol sy'n digwydd yn eich corff, a bydd yn effeithio ar lawer o famau newydd. Ond i rai merched, gall beichiogrwydd a genedigaeth sbarduno iselder mwy difrifol.

Arwyddion i'w sylwi arnynt:

Mae symptomau a all fod yn arwydd eich bod yn dioddef o iselder yn cynnwys:

  • teimlo'n drist ac yn anobeithiol
  • methu cysgu'n dda
  • diffyg diddordeb neu bleser mewn gwneud pethau
  • colli archwaeth at fwyd

Dysgwch mwy am symptomau iselder.

Rheoli iselder

Gan y bydd eich meddyg teulu yn parhau i'ch trin ar ôl i'ch beichiogrwydd ddod i ben, bydd ef neu hi bob amser yn rhan o'ch gofal iechyd meddwl. Fodd bynnag, os yw eich salwch yn ddifrifol, bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at y tim iechyd meddwl amenedigol lleol am ofal arbenigol. Gall y tim hwn helpu i ddatblygu cynllun gofal i chi.

Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn barod, dylech barhau i'w cymryd. Ond ymgynghorwch â'ch meddyg neu seiciatrydd cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu dechrau ceisio beichiogi, neu cyn gynted ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog, i drafod unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd eich meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd a thra bwydo ar y fron. Efallai y bydd angen newid, neu atal y feddyginiaeth yr ydych yn ei gymryd, ond dylai'ch meddyg neu seiciatrydd eich helpu i wneud penderfyniad deallus.

Os oes arnoch iselder llai difrifol efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu triniaethau eraill megis rhaglen o ymarfer corff neu gynghori. Gall y rhain hefyd cael eu cynnig os byddwch yn datblygu iselder ar ôl yr enedigaeth.

Iselder ôl-enedigol

Gelwir iselder sydd yn datblygu ar ôl i'ch baban gael ei eni yn iselder ôl-enedigol (PND). Mae fel arfer yn dechrau rhywbryd yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl yr enedigaeth. Gall iselder ôl-enedigol bara am dros flwyddyn os na chaiff ei drin, ond y cyntaf y caiff ei ganfod y cyflymach y byddwch yn gwella.

Pwy sydd mewn perygl?

Mae salwch iselder yn digwydd mewn 10% o famau newydd yn y flwyddyn sy'n dilyn genedigaeth eu babanod. Bydd y rhan fwyaf yn dioddef ag iselder llai difrifol, ond bydd rhai o'r menywod hyn yn datblygu salwch iselder difrifol. Mae mamau eraill yn datblygu problemau iechyd meddwl difrifol megis seicosis ôl-esgor (salwch seiciatrig prin sydd yn effeithio ar un mewn mil o fenywod sydd yn rhoi genedigaeth) a bydd angen help arbenigol arnynt.

Dylai eich ymwelydd iechyd drafod sut rydych chi'n teimlo ar ôl yr enedigaeth, ond arwyddion rhybudd i wylio allan amdanynt yw:

  • teimlo'n flin ac yn ddig
  • crio'n aml neu fod ar fin crio
  • teimlo na allwch ymdopi
  • poeni yn ddiangen am bethau na fyddai fel arfer yn eich poeni
  • bod ag ofn o gael eich gadael ar ben eich hun gyda'ch babi
  • teimladau o banig na ellir eu rheoli
  • ofnau llethol, er enghraifft, ofn marw
  • breuddwydion am niweidio eich babi
  • problemau cysgu
  • teimlo'n flinedig ac yn swrth
  • diffyg diddordeb yn eich amgylchoedd a sut rydych chi'n edrych, neu fod yn obsesiynol gyda thacluso
  • trafferth canolbwyntio a sylwi ar bethau
  • ennill neu golli llawer o bwysau
  • colli pleser mewn gweithgareddau rydych fel arfer yn eu mwynhau, gan gynnwys colli libido (blys am ryw)
  • teimladau o euogrwydd eich bod yn fam wael

Os credwch y gallech fod yn isel, siaradwch â'ch meddyg, bydwraig neu ymwelydd iechyd cyn gynted ag y bo modd fel y gallent drefnu gofal addas i chi.

Beth allwch chi ei wneud

Er bod y ffordd orau i drin iselder yw ceisio help gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, mae camau y gallwch eu cymryd eich hun i leihau eich siawns o ddatblygu iselder ac i'ch helpu i wella unwaith y byddwch wedi cael diagnosis.

Ceisiwch:

  • edrych am y pethau cadarnhaol yn eich bywyd, dim ots pa mor anodd bydd hyn yn ymddangos
  • gynnwys eich partner neu rywun agos atoch yn eich beichiogrwydd a'ch babi
  • wneud amser i ymlacio
  • fod yn agored am eich teimladau
  • ofyn am help gyda thasgau ymarferol fel siopa am fwyd a gwaith ty
  • gael gwybod am grwpiau cynnal lleol (gwasanaethau cymorth yn eich ardal chi)
  • wneud amser i orffwys
  • fwyta'n dda (ddarganfod mwy am ddiet iach yn ystod beichiogrwydd)
  • ddod o hyd i amser i gael hwyl
  • drefnu pethau bach i'w mwynhau bob dydd, megis ymarfer corff neu goffi gyda ffrindiau (dysgwch am ymarfer corff a beichiogrwydd a chadw'n heini ac yn iach ar ôl yr enedigaeth).

Ceisiwch osgoi:

  • gwneud gormod - torrwch i lawr ar ymrwymiadau eraill pan fyddwch yn feichiog neu'n gofalu am fabi newydd
  • chymryd rhan mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • yfed gormod o de, coffi, alcohol neu gola, a all eich atal rhag cysgu yn dda (ddarganfod mwy am alcohol, meddyginiaethau a chyffuriau)
  • symud ty
  • bod yn rhy galed arnoch chi eich hun neu ar eich partner

Gallwch hefyd ddarllen canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar broblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth (PDF, 235kb).

Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion  yn cynnwys mwy o wybodaeth am iechyd meddwl ôl-enedigol, gan gynnwys seicosis ôl-esgor. Cliciwch ar 'postnatal mental health' yn y rhestr ar y dudalen 'Problems and Disorders'.

Gordewdra a beichiogrwydd

Mae gordewdra, sy'n cael ei ddiffinio fel arfer fel bod â mynegai mas y coff (BMI) o fwy na 30, yn fwyfwy cyffredin. Mae tua 15-20% o ferched beichiog bellach yn ordew. Mae bod yn ordew a beichiog yn cynnyddu'ch risg o gymhlethdodau megis diabetes cyfnod cario, cyn-eclampsia, camesgor, marw-anedigaeth a'r angen am dorriad cesaraidd.

Cyn i chi feichiogi, gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell BMI pwysau iach i ddod o hyd i'ch BMI. Ond unwaith y byddwch yn beichiogi ni fydd hyn yn gywir, felly ewch at eich bydwraig neu feddyg yn lle.

Mae'r rhan fwyaf o feichiogrwydd menywod gordew yn llwyddiannus, ond gall problemau posibl i'ch babi gynnwys: genedigaeth gynamserol a risg uwch o ordewdra yn ddiweddarach mewn bywyd.

Darllenwch ragor am bwysigrwydd cadw at bwysau iach yn ystod beichiogrwydd.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk